RANDLES, ELIZABETH (1801? - 1829), cerddor

Enw: Elizabeth Randles
Dyddiad geni: 1801?
Dyddiad marw: 1829
Rhiant: Edward Randles
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

bedyddiwyd 24 Mai 1801, merch Edward Randles y telynor a'r organydd. Yn blentyn bychan tynnodd sylw at ei dawn i ganu'r piano a'r delyn. Ymddangosodd gyda'i thad yn 4 oed i chwarae o flaen Siôr III a'r frenhines Charlotte. Bu ar daith gerddorol trwy Loegr yn cynnal cyngherddau. Symudodd hi a'i dwy chwaer i Lerpwl i fyw ac yno y bu farw fis Mehefin 1829.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.