mab hynaf y Ralph uchod; ohono ef y tardd rhes o uchelwyr blaenllaw yn eu sir; yr oedd ef yn fyw yn 1517, a'i fab THOMAS RAVENSCROFT yn fyw yn 1547. Mab hynaf Thomas Ravenscroft oedd GEORGE RAVENSCROFT, siryf 1578-9, a fu f. yn 1592 ac a goffeir (fel eraill o'r tylwyth) yn eglwys Penarlâg; bu'n aelod seneddol dros ei sir yn 1563-7; yr oedd ei briod, Dorothy, yn ferch ac aeres John Davies, cwnstabl castell Penarlâg a pherchen tŷ Broadlane gerllaw iddo. (Chwaer i'r George Ravenscroft hwn oedd Elizabeth, priod yr arglwydd-ganghellor Thomas Egerton y gwelir ei hanes rhamantus yn y D.N.B.). O blant George, dylid enwi ei ferch Katherine, a briododd â Robert Davies o'r Gwysaneu [q.v.], a thri o'i feibion:
(1) THOMASRAVENSCROFT , y mab hynaf, siryf 1606-7, a fu f. 1630.
Meibion iddo ef oedd ROBERT RAVENSCROFT (1589-1640, aelod seneddol yn 1614), a THOMAS RAVENSCROFT, cychwynnydd cainc annibynnol ‘Ravenscroft o Pickhill’ yn sir Ddinbych (ond nepell o Fangor Iscoed, gw. P. Fadog, iii, 181). Mab Robert Ravenscroft oedd y cyrnol THOMAS RAVENSCROFT a ddaeth i beth sylw yn y Rhyfel Cartrefol. Serch bod ei briod yn ferch i'r Brenhinwr pybyr William Salusbury [q.v.] o Rug, ochrai ef gyda'r Senedd, ac ym mis Tachwedd 1643 traddododd gastell Penarlâg i fyddin y Senedd — ‘betrayed by one Ravenscroft’ yw geiriau sgornllyd yr archesgob John Williams am y peth (J. R. Phillips, Civil War in Wales, i, 180; ii, 99). Ym mis Mai 1648 (op. cit., ii, 371) penodwyd ef yn aelod o'r pwyllgor seneddol a arolygai sir y Fflint; ond ar ôl 1660 maddeuwyd ei gamwedd iddo. Dilynwyd ef gan ei fab EDWARD RAVENSCROFT, a briododd ag Anne, ferch Syr Richard Lloyd o Esclus [q.v.], ac a fu f. 1678. Eu mab hwy — a'r gŵr olaf o'r tylwyth hwn — oedd THOMAS RAVENSCROFT (‘o Broadlane’), 1670-1698, siryf 1692, aelod seneddol 1697-8, a fu f. 3 Mai 1698, gan adael dwy aeres, Honora a Catherine. Trwy briodas â merch i Honora y daeth teulu Glynne [q.v.], a theulu Gladstone wedyn, i feddiant o Broadlane, a ailadeiladwyd yn 1752 ac a elwir heddiw'n ‘Gastell Penarlâg.’ Ar y llaw arall, prynwyd cyfran Catherine o'r stad (yn 1756) gan deulu Grosvenor.
(2) WILLIAM RAVENSCROFT ,
ail fab George Ravenscroft, a aned yn Bretton ac a aeth i Goleg Brasenose yn Rhydychen ac i Lincoln's Inn (yr oedd yn ‘Bencher’ yno); cafodd y swydd o ‘Clerk of the Petty Bag’ yn y Siawnsri. Bu'n aelod seneddol dros sir y Fflint yn 1586-7 ac yn 1601, dros Old Sarum yn 1604-11, a thros fwrdeisdrefi'r Fflint yn 1620-2, 1624, 1625, a 1628. Bu farw'n ddi-briod yn 1628, a chladdwyd ym Mhenarlâg.
(3) ROGER RAVENSCROFT (a fu f. 1634), rheithor Dodleston yn sir Gaerlleon .
Ar ryw olwg, y mwyaf adnabyddus o'r holl deulu yw mab iddo ef, sef y cerddor THOMAS RAVENSCROFT (1592-1635?), a aned ym Mhenarlâg ac a enillodd ei le yn y D.N.B. Cynefin ddigon, yn ein llyfrau tonau cynulleidfaol, yw'r geiriau ‘o Sallwyr Ravenscroft,’ sef y llyfr The Whole Book of Psalms a olygodd ef yn 1621 ac y cyfrannodd iddo gynganeddion i 48 o donau. Ni sonnir dim am ei dras yn y D.N.B., ond y mae ei Melismata, 1611, yn cynnwys cyflwyniad i'w ddau ewythr Thomas a William a enwyd dan (1) a (2) uchod.