Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RECORDE, ROBERT (bu f. 1558), mathemategwr a meddyg; g. yn Ninbych-y-pysgod, sir Benfro, mab Thomas Record a'i wraig Rose, merch Thomas Jones, Machynlleth. Graddiodd yn Rhydychen ac etholwyd ef yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau yn 1531. Symudodd i Gaergrawnt; bu'n astudio mathemateg yno a phasiodd yn feddyg hefyd. Ar ôl bod yn addysgu yn Rhydychen am gyfnod ymsefydlodd yn Llundain fel meddyg; dywedir iddo fod yn feddyg i'r brenin Edward VI a'r frenhines Mari. Yn 1549 dewiswyd ef yn bennaeth y bathdy (‘Comptroller of the Mint’) ym Mryste; dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn arolygydd cyffredinol gweithydd mwyn arian yn Lloegr ac Iwerddon. Bu f. yng Ngharchar y King's Bench, Southwark, yn 1558; profwyd ei ewyllys (a wnaethpwyd yn y carchar) ar 18 Mehefin y flwyddyn honno. Ymddengys fod teulu Recorde yn byw yn y Maudlins, a fuasai'n sefydliad (yn dyddio o'r Canol Oesoedd) i wahangleifion ychydig y tu allan i furiau Dinbych-y-pysgod.

Recorde oedd arloesydd ysgrifenwyr ar fathemateg yn Lloegr; ef oedd y cyntaf i ysgrifennu llyfrau ar rifyddeg, algebra, a geometri. Cafwyd llawer o argraffiadau o'i lyfrau yn y 16eg g. a'r 17eg. Efe a ddyfeisiodd y simbol =. Dyma ei brif weithiau: The Grounde of Artes 1540, The Whetstone of Witte, 1557, a The Pathway to Knowledge, 1557?; y mae'r tri gwaith yn delio, yn y drefn y'u rhoddwyd, â'r tri phwnc a enwir uchod. Yn y trydydd llyfr y mae'n egluro diffygion (‘eclipses’) ar yr haul a'r lleuad yn ôl cyfundrefn Copernicus; yr oedd ymysg y rhai cyntaf yn Lloegr i fabwysiadu'r gyfundrefn honno.

Llyfryddiaeth:

  • The Edinburgh Review, xxii, 1814;
  • Henry Hallam, The Literature of Europe;
  • David Murray, Chapters in the History of Book-keeping, Accountancy, and Commercial Arithmetic, 1930.

Awdur:

Athro-Emeritus Syr James Frederick Rees, Ll.D., (1883-1967), Dinbych-y-pysgod / Caerdydd