Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, REES ARTHUR (‘Rhys Dyfed ’; 1837-1866), bardd; g. 1837 yn Felin Brithdir, Penbryn, sir Aberteifi, mab Rhys Rees. Daeth ymlaen yn dda yn yr ysgol, yn enwedig mewn mesuroniaeth. Aeth yn brentis i fasnachdy J. M. Jones, Rhydlewis, ac ymhen rhai blynyddoedd aeth i Lerpwl, ac oddi yno i Lundain. Manteisiodd ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun a daeth yn feistr ar y Saesneg, gan gyfansoddi barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith honno. Yn 1860 gwaelodd ei iechyd a bu raid iddo aros gartref. Enillodd lawer o wobrwyon eisteddfodol. Cipiodd y wobr yn eisteddfod Llandudno (1864) am farwnad ‘Carn Ingli,’ a daeth yn ail i ‘Glan Cunllo’ am gân ar ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’ yn eisteddfod y Tŷ-gwyn-ar-Daf (1865). Bwriadai gyhoeddi cyfrol o'i farddoniaeth, ond ni bu fyw i wneuthur hynny. Bu f. 8 Gorffennaf 1866, a'i gladdu yn Llangunllo.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. MS. 9271;
  • Enw. Cer.., 201;
  • Not. W., 293;
  • Yr Haul, 1866, 256.

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth