REES, JOHN CONWAY (1870 - 1932), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: John Conway Rees
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1932
Rhiant: Thomas Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 13 Ionawr 1870, yn fab i Thomas Rees, Cloth Hall, Llanymddyfri; addysgwyd ef yn ysgol Llanymddyfri ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; graddiodd yn 1894. Bu'n athro yn ysgolion Sherborne, Rossall, a Giggleswick. Ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn gapten ar glwb Rygbi Rhydychen, ac efe a gychwynnodd yr arfer o drefnu pedwar 'threequarter' - canolwr oedd ef ei hunan. Chwaraeodd dros amryw glybiau enwog: Caerdydd, y Barbariaid, y ' London Welsh,' Richmond, Blackheath, ac am bedwar tymor dros Lanelli. Bu'n cynrychioli Cymru deirgwaith (1892-4), ac yr oedd yn y tîm Cymreig cyntaf i ennill y ' goron driphlyg.' Bwriodd 30 mlynedd olaf ei fywyd yn athro ac yn brifathro mewn ysgolion yn yr India; bu farw 30 Awst 1932.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.