REES, DANIEL (1793-1857), clerigwr ac emynydd;
g. 8 Chwefror 1793, yn y Felin Newydd, Llangeler, sir Gaerfyrddin, mab Ebenezer Rees. Addysgwyd ef yn ysgol Castell Hywel a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n gurad y Goetre, sir Fynwy, yn 1818-23, a phenodwyd ef yn gurad parhaus Aberystruth yn 1823. Bu f. 13 Mehefin 1857. Ar gais esgob Llandaf cyhoeddodd Casgliad o Psalmau a Hymnau (W. Rees, Llanymddyfri), yn 1831, a A Selection of Psalms and Hymns (Llanymddyfri) yn 1832. Bu'r ddau gasgliad yn boblogaidd iawn yn yr Eglwys Sefydledig, canys ymddangosodd 6ed argraffiad yr un Cymraeg yn 1860, a 7fed argraffiad yr un Saesneg yn 1858. Y mae ambell drosiad ac emyn gwreiddiol o'i waith yn y naill gasgliad a'r llall.
Llyfryddiaeth:
- D. E. Jones, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, 314;
- Bradney, i, 422, 477;
- Cardiff Catalogue.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe