REES, DANIEL (1855 - 1931), newyddiadurwr

Enw: Daniel Rees
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1931
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn sir Benfro, 1855. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Brynconin a Choleg Owens, Manceinion. Dechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn Warrington, a bu wedi hynny ar staff y Chester Chronicle yn Crewe. Wedyn aeth i Gaernarfon fel golygydd a rheolwr Yr Herald Cymraeg a'r Caernarvon and Denbigh Herald. Yn 1907 ymunodd ag adran ystadegau'r Bwrdd Masnach; ymneilltuodd tua 1922. Yn ystod y tymor y bu yng Nghaernarfon bu yn newyddiadurwr dylanwadol ar yr ochr Ryddfrydol, gan ddangos llawer o ddewrder ac annibyniaeth. Cefnogodd y gweithwyr adeg streic chwarel y Penrhyn, a gwrthwynebodd ryfel De Affrica. Yr oedd yn ieithydd da a chymerai ddiddordeb arbennig yng ngwaith Dante. Yn 1903 cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Divina Commedia Dante i Gymraeg, Dwyfol Gân Dante, ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd drama Saesneg, Dante and Beatrice, ganddo ef a T. Gwynn Jones, a oedd ar y pryd yn aelod o staff Yr Herald. Bu farw yn S. Mary's Cray, Caint, 8 Tachwedd 1931, a chladdwyd ef yn S. Paul's Cray.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.