REES, GABRIEL (1757-1807), gweinidog y Bedyddwyr yn Rhydwilym ;
g. ddechrau 1757, ger Llanglydwen. Bedyddiwyd ef yn 1778 yn Rhydwilym. Dechreuodd bregethu'n union. Urddwyd ef Mehefin 1789. Er preswylio ohono ym Mhant-hywel, Trelech, bugeiliai Rydwilym a'i changhennau am gyflog blynyddol i'w was. Pregethai'n aml yng ngwyliau'r enwad, ac âi ar deithiau cenhadol. Perthynai i'r pregethwyr a gam-enwid, oblegid eu nwyd efengylu, yn ‘bobl y tân dieithr.’ Apwyntiwyd ef gydag eraill i bregethu ym mhlaid Calfiniaeth gymedrol yng Nghaerfyrddin yn 1799. Er na chyfrifid ef yn feddyliwr mawr nid oedd nemor neb yn fwy derbyniol nag ef. Dioddefodd am fisoedd cyn ei farw ar 21 Mai 1807. Canodd Joshua Watkins [q.v.] farwnad iddo.
Llyfryddiaeth:
- H. Price, Hanes Eglwys Rhydwilym;
- J. Gwili Jenkins, Hanfod Duw a Pherson Crist, 276;
- Traf. Cymd. Hanes Bed., 1930;
- Hist. Carms., ii, 233.
Awdur:
Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert