REES, GEORGE (bu farw 1795), gweinidog y Bedyddwyr yn Llangloffan a Rhydwilym.

Enw: George Rees
Dyddiad marw: 1795
Priod: Elizabeth Rees
Plentyn: Margaret Davies (née Rees)
Plentyn: James Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Fe'i bedyddiwyd yn Llangloffan 11 Gorffennaf 1741, ac yno y codwyd ef i bregethu tua 1745 a'i ordeinio yn 1758, ond dechreuodd gynorthwyo yn Rhydwilym ar ôl cwymp David Thomas yn 1769, a gweinyddu'r ordinhadau yn 1771. O'r diwedd, yn 1775, cafodd lythyr gollyngdod llwyr yn weinidog yr eglwys, a bu ei weinidogaeth yno yn llewyrchus iawn er ei fod ef ei hun yn byw cyn belled i ffwrdd â'r Cilgwyn ym mhlwyf Maenordeifi. Bu farw 17 Mehefin 1795 yn 75 oed, a'i wraig Elizabeth 24 Mehefin 1798, yn 77 oed, a'u claddu ill dau yng Nghilfowyr. Sonia ei ewyllys am ddau blentyn a aned iddynt, sef James Rees a Margaret Davies.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.