Dechreuodd Henry Rees bregethu tua diwedd 1818, a phrofodd ar unwaith y meddai ddoniau nodedig o ddisglair yn y pulpud — gwrando arno'n pregethu a fu'r achos i John Jones, Talsarn, ei roddi ei hun i'r weinidogaeth. Bu yn ysgol T. Lloyd, Abergele, 1819-21. Yn 1820 derbyniwyd ef yn bregethwr. Yn 1821 aeth i Amwythig yn brentis o lyfr-rwymydd, a bu'n gwasnaethu'r eglwys Gymraeg yno ar y Suliau a chael bwyd, dillad, a llety yn gydnabyddiaeth. Y pryd hwn bu mewn ysgol yn Dorrington er mwyn ymberffeithio mewn Saesneg. Datblygodd yn bregethwr nodedig o ddifrif, galluog, ac effeithiol, a deuai galwadau'n ddi-dor iddo o bob rhan o Gymru. Pregethodd yn y gymdeithasfa yn y Bala yn 1822 ac wedi hynny'n rheolaidd, gydag ychydig eithriadau, yng nghyfarfodydd y gymdeithasia hyd ddiwedd ei oes. Ymroddodd i astudio gweithiau'r Piwritaniaid, yn enwedig eiddo'r Dr. John Owen. Ordeiniwyd ef yn y Bala ym Mehefin 1827. Priododd Mary Roberts, Amwythig, 20 Tachwedd 1830, a bu iddynt bedwar o blant. Bu tri o'r plant farw yn eu babandod, eithr tyfodd y bedwaredd Ann, i fyny ac ymbriododd â Richard Davies (1818-1896) [q.v.]. Symudodd i Lerpwl, Nadolig 1836, a gweinidogaethodd yno i'r Methodistiaid Calfinaidd a oedd ganddynt nifer o eglwysi. Yn ddiweddarach daeth i gysylltiad nes ag eglwys Chatham Street. Yn 1839 ymwelodd ag America. Yn 1843 cymerodd ran flaenllaw yn y gwrthwynebiad a oedd yng Nghymru i Fesur Addysg y flwyddyn honno. Yn 1857 bu yn yr Almaen yng nghyfarfod y Cynghrair Efengylaidd yn Berlin. Cydnabyddid ef ers llawer o amser bellach fel prif arweinydd y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru; bu'n llywydd cymdeithasfa'r gogledd yn 1855-6 a thrachefn yn 1867; ac yn 1864 penodwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol gyntaf. Gan lawer o bobl abl i farnu ystyrid ef y gweinidog mwyaf duwiolfrydig a'r pregethwr perffeithiaf a adnabuasent. Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Traethodydd a chylchgronau eraill. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau. Bu f. yn Benarth, Dyffryn Conwy, 18 Chwefror 1869, a chladdwyd ef yn Llantysilio, Môn.
Y Parch. Griffith Wynne Griffith, B.D., (1883-1967), Marian Glas / Llanfair P.G., Sir Fôn