REES, WILLIAM HOPKYN (1859-1924), gweinidog gyda'r Annibynwyr, cenhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain, ac ieithydd o fri;
g. 24 Ebrill 1859, yng Nghwmafan, Morgannwg. Aeth i Goleg Annibynnol y Bala yn 1877, a bu'n weinidog yn Llechryd a Ffynnonbedr o 1881 i 1883, pryd yr hwyliodd i'r maes cenhadol yng ngogledd China, ef a'i briod, Margaret Charlotte Harrison o Goedpoeth. Ymgartrefodd yn Chi Chou yn 1888, lle y sefydlodd orsaf. Aeth trwy helyntion y gwrthryfel yn 1900, ac anrhydeddwyd ef â'r ‘Rhuban Glas’ ac â gradd Mandarîn am ei ran yn yr heddychu. Symudwyd ef i Goleg Diwinyddol Undebol Peking ac i adran yr Ysgol Iaith i Genhadon. Dewiswyd ef i'r bwrdd golygyddol i ddiwygio'r Hen Destament yn yr iaith Fandarin, ac yn aelod o'r cwmni o ysgolheigion yn Shanghai a ofalai am lenyddiaeth Gristnogol i China; ac yn 1915 gwnaed ef yn gyd-ysgrifennydd, â Timothy Richard [q.v.] ynglŷn â llenyddiaeth Gristnogol i China, ac yn ddiweddarach yn ysgrifennydd. Yn 1919 gwnaed ef yn aelod o fwrdd golygyddol y Chinese Recorder. Ymddiswyddodd yn 1921, oherwydd i'w iechyd ballu, ac etholwyd ef yn athro Chinaeg ym Mhrifysgol Llundain. Cyhoeddodd amryw lyfrau, megis China a'r Chineaid, 1906; Griffith John o China, 1901; Jonathan Lees of Tientsin; a How to Study Chinese, 1918. Bu f. yn Llundain, 4 Awst 1924.
Llyfryddiaeth:
- H. T. Jacob, Hopkyn Rees;
- E. Lewis Evans, Cymru a'r Gymdeithas Genhadol.
Awdur:
Y Parchedig Ddr. Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais / Abertawe