Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, JAMES (1803-1880), argraffydd a chyhoeddwr; g. yng Nghaerfyrddin, 1803. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Llundain aeth i Gaernarfon tua 1831 fel ‘foreman’ yn swyddfa William Potter a'i Gwmni. Tua 1840, ar ôl ymneilltuad Potter, ymgymerodd Rees a dwyn ymlaen y swydd fel olynydd iddo. Yn ychwanegol at gyhoeddi y Carnarvon and Denbigh Herald cychwynnodd yr Herald Cymraeg yn 1854 fel newyddiadur ceiniog (gyda James Evans yn olygydd), a bu'n gyfrifol am y ddau newyddiadur hyd 1871 pan gymerwyd hwynt drosodd gan John Evans, Caellenor, Caernarfon. Cafodd ei wneud yn henadur a bu'n faer y dref fwy nag unwaith. Mewn gwleidyddiaeth yr oedd yn Rhyddfrydwr twymgalon. Bu f. 21 Mehefin 1880 yn Heol y Castell, Caernarfon.

Llyfryddiaeth:

  • Y Traethodydd, 1901, 278;
  • Ser. Cymru, 1880 (Gorffennaf);
  • Baner, 26 Mehefin 1880;
  • Y Goleuad, 26 Mehefin 1880;
  • Herald Cymr., 23 Mehefin 1880.

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth