REES, JONATHAN (‘Nathan Wyn ’; 1841-1905), bardd, llenor, ac eisteddfodwr;
g. 21 Awst 1841 yn Casmael, sir Benfro, mab James ac Eunice Rees, a brawd i Evan Rees, ‘Dyfed’ [q.v.]. Symudodd y teulu i Aberdâr pan oedd yn 9 mlwydd oed, ac i Ystrad Rhondda yn 1877. Bu'n swyddog yng nglofa Bodringallt hyd ddiwedd ei oes. Bu'n amlwg gydag addysg ac yn aelod o fwrdd ysgol y Rhondda am flynyddoedd lawer. Ni fu nemor eisteddfod genedlaethol yn 30 mlynedd olaf ei fywyd nad enillai wobrwyon ar bob math o fesurau. Yn Lerpwl yn 1900 llwyddodd i gipio cynifer â chwech o wobrau. Cyhoeddodd Caniadau Nathan Wyn, a Munudau Hamddenol. Ceir llawer o'i farddoniaeth yng ngholofnau'r Gwladgarwr, Y Geninen, a'r Cymru (O.M.E.). Bu f. 13 Mehefin 1905.
Llyfryddiaeth:
- Hunangofiant (mewn llawysgrif);
- Gen., 1905;
- Y Goleuad, 1906.
Awdur:
Y Parch. James Ednyfed Rhys, (1876-1960), Caerdydd