Bu Josiah Rees yn briod ddwywaith; hawlia rhai o'i feibion sylw: yr hynaf,
(1) OWEN REES (1770-1837),
a ddaeth yn 1794 yn bartner yng nghwmni cyhoeddi enwog Longman. Dychwelodd i Gymru yn 1837, a bu farw'n ddi-briod, yn y Gelli-gron, 5 Medi 1837. Yr oedd yntau'n Undodiad yn 1803. (D.N.B., ar ddiwedd yr ysgrif ar y Thomas Rees isod.)
(2) THOMAS REES (1777-1864), gweinidog a hanesydd Undodaidd;
g. yn y Gelli-gron 14 Medi 1777. Prentisiwyd ef yn llyfrwerthwr, ond troes at y weinidogaeth, a bu yn academi Caerfyrddin o 1799 hyd 1802. O hynny hyd 1831, bu'n weinidog ar eglwysi, yn Lloegr a chan mwyaf yn Llundain, ar wahân i dymor byr (1805-6) yn hen eglwys ei dad yn y Gelli-onnen. Daeth yn ffigur blaenllaw yn ei enwad: yn un o ymddiriedolwyr cronfa'r Dr. Daniel Williams (1809-1853), yn aelod o'r Bwrdd Presbyteraidd (o 1813 ymlaen) — ac yn ysgrifennydd iddo (1825-53). Ysywaeth, yn 1853 gwnaeth gawl o gyfrifon y cronfeydd yr oedd eu gofal arno, a bu'n rhaid iddo gilio i Sbaen i osgoi carchar. Ac er iddo wastatáu'r cyfrifon, a chyfannu'r colledion, yn nes ymlaen, eto bwriodd y gweddill o'i oes mewn dinodedd. Diddorol yw sylwi bod Undodiaid Cymru, ar ôl 1853, yn cwyno nad oeddynt yn cael chwarae teg ar law'r Bwrdd wedi i Rees fynd allan o'i swydd. Yr oedd Thomas Rees, meddai Alexander Gordon (a wyddai), ‘yn awdurdod dihafal’ ar hanes Sosiniaeth ac Undodiaeth. Ei lyfr enwocaf yw The Racovian Catechism, 1818, ond cyhoeddodd hefyd (yn y Monthly Repository) nifer o bapurau pwysig yn y maes hwn; ac erys cyfrolau mewn llawysgrif yn llyfrgell y Dr. Williams. Cyhoeddodd hefyd, 1815, The Beauties of Wales. Gw. ysgrif Gordon arno yn y D.N.B., a ffeithiau ychwanegol gan Walter J. Evans yn Oriel Coleg Caerfyrddin, 22.
Dau fab arall i Josiah Rees oedd
(3) RICHARD REES
o Alltycham, Pontardawe, a oedd yn aelod blaenllaw yn y Gelli-onnen (J. E. Morgan, Hanes Pontardawe, 103), a
(4) JOSIAH REES , masnachwr,
a oedd yn Leghorn yn 1803 (pan oedd yn aelod o'r Gymdeithas Ddwyfundodaidd, ond a oedd yn gonswl Prydeinig yn Smyrna erbyn mis Tachwedd 1813 pan aned ei fab
GEORGE OWEN REES (1813-1889).
Daeth hwnnw'n feddyg mawr ei fri. Ar ôl astudio yn Guy's Hospital, ym Mharis, ac yn Glasgow, bu'n feddyg yn Llundain o 1836 ymlaen. Parlyswyd ef yn 1886, a bu f. yn Watford, 27 Mai 1889. Y mae yn y D.N.B. ysgrif lawn ar ei yrfa ac ar ei gyfraniadau pwysig i feddyginiaeth; gw. hefyd Trans. Cymm., 1932-3, lle y ceir rhestr o'i bapurau. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1843.
Mab arall i Josiah Rees y masnachwr oedd
Syr JOSIAH REES , prif farnwr Bermuda,
a dderbyniwyd i'r Middle Temple yn 1847 ac a alwyd i'r Bar yn 1851. Penodwyd ef yn brif farnwr yn 1878, urddwyd yn farchog yn 1891, a bu f. fis Tachwedd 1899; rhoes yr enw ‘Gelligron’ ar ei dŷ. (Who was Who; Middle Temple Admissions; ar gam y dywed Asaph ei fod yn fab i Thomas Rees).
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.