Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, LEWIS (1710-1800), gweinidog gyda'r Annibynwyr; g. 2 Mawrth 1710, yn Glynllwydrew, Blaen Glyn Nedd, Morgannwg, mab Rees Edward Lewis, ac ŵyr i offeiriad plwyf Penderyn. Cefnodd ei dad ar Eglwys Loegr, a magwyd y mab yn y ffydd Ymneilltuol. Addysgwyd yn ysgol Blaengwrach dan ofal Henry Davies [q.v.], y gweinidog, ac yn ysgolion Joseph Simmons [q.v.], Abertawe, Rice Price [q.v.], Tyn-ton, ac academi Maesgwyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn Blaengwrach, a dechreuodd bregethu yno. Ar gymhelliad Edmund Jones a'i athro, Vavasor Griffiths [q.v.], aeth i gymryd gofal yr achos bychan yn y Tŷ Mawr, Llanbrynmair. Llafuriodd yn ddyfal yno, heb ei urddo, o 1734 hyd 1738. Urddwyd ef yn Blaengwrach ar 13 Ebrill 1738. Adeiladwyd yr Hen Gapel, Llanbrynmair, yn 1739. Symudodd i Maesyronnen, Brycheiniog, yn 1745; ond dychwelodd i Lanbrynmair yn 1748 megis wedi ei eneinio o'r newydd at ei waith. Gafaelodd tân y diwygiad yn ei ysbryd. Casglodd eglwys gref yn Llanbrynmair a swcro egin-ganghennau'r Hen Gapel. Ymwelodd â pharthau Gwynedd i efengylu, a dioddefodd erlid creulon. Lewis Rees a agorodd ddrws a rhoi eli penelin i Howel Harris i ddod i'r gogledd am y tro cyntaf. Yn 1759, symudodd i Tirdoncyn, Llangyfelach, Morgannwg, lle y treuliodd weddill ei oes yn fawr ei afiaith bregethu. Pregethai yn un o oedfeuon cymanfa bregethu Caerfyrddin gyda'i fab, Dr. Abraham Rees [q.v.], ychydig cyn marw. Bu f. 21 Mawrth 1800. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf ei gyfnod, goddefgar ei ysbryd, llydan ei farn. Cyfunid yn ei bersonoliaeth ‘synhwyrfryd doeth’ yr Hen Annibynwyr coeth a llewyrch cynnes goleuadau mawr y Diwygiad Methodistiaid. Yn ôl cofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol derbyniai roddion blynyddol bron yn ddifwlch o 1742 hyd 1781.

Llyfryddiaeth:

  • Yr Adolygydd, iii, 199-217, 480-500;
  • Minutes of Cong. Fund Board, 1742-81;
  • H.E.A.C., 20-3;
  • Cofiant Lewis Rees;
  • Hen Gapel Llanbrynmair (1739-1839), 33-8;
  • R. Bennett, Blyn. Cyntaf Meth. a Meth. Tref. Uchaf.

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth