REES, ROBERT OLIVER (1819 - 1881), fferyllydd, cyhoeddwr llyfrau, a llenor

Enw: Robert Oliver Rees
Dyddiad geni: 1819
Dyddiad marw: 1881
Rhiant: Ellis Rees
Rhiant: Catherine Rees (née Oliver)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: fferyllydd, cyhoeddwr llyfrau, a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Argraffu a Chyhoeddi; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd yn Nolgellau - ei fam (Catherine Rees) yn hanfod o Oweniaid Pantphylip, Llangelynnin. Yr oedd yn adnabod Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'), ac ysgrifennodd gofiant iddo, 1876. Trefnodd i gyhoeddi Cysondeb y Pedair Efengyl (E. Robinson), 1855, gwaith David Richard ('Dafydd Ionawr'), a pheth o waith Sarah Jane Rees ('Cranogwen'). Bu ei Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl , 1879, yn anarferol o boblogaidd; fe'i cyfieithwyd i iaith brodorion Bryniau Khassia, Assam. Efe, yn bennaf, biau'r clod am gofgolofn Thomas Charles yn y Bala. Bu farw 12 Chwefror 1881.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.