Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , OWEN ( 1717 - 1768 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ;

g. yn 1717 yn ardal Cefn-arthen ger Llanymddyfri . Pan holltwyd eglwys Cefn-arthen gan ddadleuon diwinyddol, cododd y blaid Galfinaidd eglwys yng Nghlunpentan , a gorfforwyd gan Edmund Jones [q.v.] yn 1740 ; yr oedd Rees yn aelod ohoni. Aeth i ysgol Pentwyn dan Samuel Jones ; yr oedd yn ei dymor olaf ynddi pan aeth Thomas Morgan , Henllan [q.v.] , yno yn 1741 . Y mae'n bur amlwg iddo dderbyn galwad o Glunpentan yn 1741 , oblegid mewn llythyr at Howel Harris ar 7 Awst ( Trevecka Letter 362 ), enwa Edmund Jones ef yn un o'r gweinidogion Ymneilltuol a gefnogai Fethodistiaeth ; eithr nid cyn Mawrth 1742 (9 Mawrth, meddai dyddlyfr Thomas Morgan — gofidiai ef na allai fod yn urddiad ‘fy annwyl gyfaill’ — a llyfr y Cilgwyn , Cofiadur , 1923 , 30; 11 Mawrth meddai H. Egl. Ann. ) yr urddwyd ef. Yn ystod ei weinidogaeth ef ( 1749 ) y cododd ei eglwys dŷ-cwrdd Pentre-tŷ-gwyn . Symudodd yn 1756 i fugeilio eglwys Aberdâr . Yr oedd ei ragflaenydd yno'n Galfin , ac am ddim a wyddys, Calfin oedd Rees ar y pryd; ond y mae'n eglur iddo ef a'i bobl droi'n Arminiaid wedyn; sieryd Edmund Jones yn 1789 am ‘wrthgiliad’ Rees . Bu f. 14 Mawrth 1768 , a chladdwyd ym mynwent y llan yn Aberdâr; y mae ar ei feddrod ddau bennill gan Edward Evan o'r Ton Coch [q.v.] , a ddaeth yn olynydd iddo yn nes ymlaen. Ailbriododd ei weddw, a bu fyw i fod yn 100 oed — y mae ysgrif arni yn y Monthly Repository , 1818 , 143. Mab i Owen a Mary Rees oedd Josiah Rees [q.v.] .

Ffynonellau:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 583, 588-9;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1946-7 , 125-6, 145;
  • a'r cyfeiriadau eraill a roddwyd uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54