REES, RICHARD (1707-1749), gweinidog Annibynnol Arminaidd;
g. yn 1707 ar ei dreftadaeth, Gwernllwyn Uchaf, Dowlais; bu yn academi Caerfyrddin dan Thomas Perrot(t). Ar derfyn ei gwrs (1732) urddwyd ef yn gydweinidog â James Davies [q.v.] ar eglwys Annibynnol Cwm-y-glo (Merthyr Tydfil) — Rees yn Armin, a'i gyd-weinidog hyn yn Galfin. Ni lwyddwyd i gydfyw ddim hwy na 1747, pan aeth Rees a'i gyd-Arminiaid allan, a ffurfio eglwys newydd yng Nghefn-coed-cymer — eglwys sydd ers tro mawr bellach yn Undodaidd. Bu Rees f. fis Awst 1749. Cyhoeddwyd tair o'i bregethau yn 1754 gan Phillip Charles [q.v.], ac yr oedd hefyd yn emynydd.
Llyfryddiaeth:
- H.E.A.C., ii, 248-9;
- C. Wilkins, Hist. Merthyr Tydfil, 178;
- W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru, 245;
- Gen., 1907, 44;
- W. Rowlands, Llyfr. y Cym., 439.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.