Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, RICE (1804-1839), clerigwr ac ysgolhaig; g. 31 Mawrth 1804 yn y Ton gerllaw Llanymddyfri, yn fab i David a Sarah Rees — gw. yr ysgrif Rees o'r Ton.’ Ymddengys mai Annibynnwr oedd y tad, ac yng nghapel yr Annibynwyr y bedyddiwyd Rice Rees, gan Peter Jenkins o'r Brychgoed. Yn 1819 aeth i ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan, a oedd ar y pryd dan ofal Eliezer Williams [q.v.], ond ychydig amser a fu yno. Bu gartref wedyn am ysbaid, ac yn y cyfnod hwnnw yr enynnwyd ei ddiddordeb yn y Gymraeg, gan John Howell, ‘Ioan Glan Dyfroedd’ [q.v.], athro'r ysgol Frutanaidd yn y dref. Aeth wedyn i Gasgob, at ei ewythr W. J. Rees [q.v.] i'w baratoi at Rydychen; ymaelododd o Goleg Iesu yn 1822, graddiodd yn 1826 (B.D. 1837), ac etholwyd ef (1828) yn gymrawd o'i goleg. Bu Llewelyn Lewellin [q.v.] yn athro arno yn Rhydychen; pan wnaethpwyd Lewellin yn brifathro Coleg Newydd Dewi Sant yn Llanbedr, penodwyd Rice Rees yn athro Cymraeg ac yn llyfrgellydd yno — yn yr un flwyddyn, urddwyd ef; cafodd reithoraeth Llanddewi Efelffre yn 1832 a phenodwyd ef yn gaplan i'r esgob yn 1838 — eisoes yr oedd y gwaith o arholi Cymraeg ymgeiswyr am urddau wedi ei osod arno. Greddf ysgolhaig oedd ynddo, ac y mae ei lyfr The Welsh Saints, meddai J. E. Lloyd yn ei ysgrif arno yn y D.N.B., ‘yn llawn a golau,’ ac eto'n dal ei dir fel awdurdod; traethawd buddugol yn eisteddfod Caerfyrddin (1835) oedd hwn ar y dechrau, ond fe'i helaethwyd yn llyfr yn 1836, a'i gyhoeddi gan ei frawd William Rees (1808-1873) [q.v.]. Golygodd argraffiad o Gannwyll y Cymry, a ddaeth allan (1841) wedi ei farw; ac yr oedd yn aelod o'r pwyllgor a fu wrthi'n golygu argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Cymraeg. Yr oedd yn ei fryd gyhoeddi argraffiad o ‘Lyfr Llandaf,’ ond bu f. cyn gorffen y gwaith — a gwplâwyd, yn annigonol, gan W. J. Rees yn 1853. Y mae'n bur eglur i Rice Rees weithio'n rhy galed; bu farw'n ddisymwth yn y Bontnewydd ar Wy ar ei ffordd o Gasgob i Lanbedr, 20 Mai 1839, a chladdwyd yn Llandingad.

Llyfryddiaeth:

  • Traethawd M.A. gan T. Lloyd Bowen.

Awdur:

Selwyn Jones, Mus.Bac., (1906-81), Hirwaun