REES o'r TON (a mannau eraill gerllaw Llanymddyfri),

teulu y bu tri o leiaf ohonynt yn wŷr o gryn nod. Yn 1771 priododd RICE REES ag un o ferched y Parch. William Jenkins, o Ben-y-waun ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn. Bu Rees farw 2 Mawrth 1826. O'i chwe phlentyn, nodwn ddau fab ac un ferch: (1) William Jenkins Rees (1772 - 1855); (2) DAVID RICE REES (1787 - 1856), a aned yn Llanymddyfri 6 Awst 1787; bu'n gweithio mewn masnachdai yn Lloegr, ond yn herwydd afiechyd dychwelodd yn 1811 i Lanymddyfri; gwerthai lyfrau a chadwai'r post, ac ar ôl marw ei dad etifeddodd diroedd ym mhlwyfi Llandingad a Llywel. O 1829 hyd 1835 bu mewn partneriaeth â'i nai William Rees fel argraffydd; bu wedyn am dymor byr yn fancer; ond ei nodwedd amlycaf oedd ei egni ym mywyd cyhoeddus Llanymddyfri. Bu farw 25 Mai 1856. (3) SARAH REES, a briododd â David Rees, cefnder i'w thad, ac a breswyliai yn y Ton - meibion iddynt oedd Rice Rees (1804 - 1839) a William Rees (1808 - 1873).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.