Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, WILLIAM (‘Gwilym Hiraethog ’; 1802-1883), gweinidog Annibynnol, llenor, golygydd, ac arweinydd cymdeithasol; g. yn Chwibrenisaf, fferm wrth droed Mynydd Hiraethog, plwyf Llansannan, sir Ddinbych, 8 Tachwedd 1802, ail fab Dafydd ac Ann Rees — ei frawd hŷn oedd Henry Rees [q.v.], gweinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Hanoedd ei daid ar ochr ei dad o Landeilo Fawr, ond o'r Wenvo, Morgannwg, y daeth yn gyllidydd i Lansannan, a phriodi Gwen Llwyd, etifeddes Chwibren-isaf, yn disgyn o Hedd Molwynog. Ychydig aeafau yn ysgol y pentref oedd yr unig addysg a gafodd, a throes i amaethu a bugeilio'n ifanc, ond ymroes i'w ddiwyllio'i hun, a than gyfarwyddyd Robert ap Dafydd o'r Gilfach Lwyd, hen lanc o amaethwr a chymydog iddo, dysgodd y gynghanedd, ac enillodd ar gywydd yn eisteddfod Aberhonddu yn 1826, i ‘Buddugoliaeth Trafalgar a Marwolaeth y Penllywydd Nelson,’ camp a'i dug i'r amlwg.

Magwyd ef gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ond derbyniwyd yn aelod gan yr Annibynwyr pan gychwynasant achos yn Llansannan yn 1828. Galwyd ef i bregethu'n fuan, ac aeth yn weinidog i Mostyn yn 1831. Symudodd i Lôn Swan, Dinbych, yn 1837, a daeth i fri mawr fel pregethwr. Yn 1843, aeth i'r Tabernacl, Lerpwl, yn olynydd i'w gyfaill William Williams o'r Wern [q.v.], ac i Salem, yn yr un dref, yn 1853, a chodwyd capel Grove Street yn ei le yn 1867. Ymddeolodd yn 1875, gan drigo yng Nghaer hyd ei farw, 8 Tachwedd 1883; claddwyd yn Smithdown Road Cemetery, Lerpwl. Bu'n briod ag Ann Edwards (a fu f. 1874), Waunddilen, Nantglyn.

Arweiniai ‘Hiraethog’ yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy'r Wasg ac oddi ar lwyfan. Cychwynnwyd Yr Amserau yn Lerpwl yn 1843, ac ef yn olygydd hyd 1852. Hwn oedd y newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo. Rhoes ‘Llythyrau'r Hen Ffarmwr’ nerth i'w hoedl. Ymdrinient yn nhafodiaith henfro'r golygydd â phynciau fel crefydd a'r wladwriaeth, Deddfau'r Ŷd, addysg, Mudiad Rhydychen, a Phabyddiaeth. Radicaliaeth Lloegr a'i hysbrydolai'n bennaf. Deffrodd Gymru'n wleidyddol, ac i'r Amserau y mae rhan helaetha'r diolch. Unwyd yr Amserau a'r Faner yn 1859. Rhoed sylw helaeth i wleidyddiaeth Ewrop hefyd. Cefnogodd Mazzini a Garibaldi ym mrwydr rhyddid yr Eidal, a Kossuth yn Hwngari yn erbyn Awstria. Cyfarfu Hiraethog â Mazzini, a gohebai'r ddau â'i gilydd am ysbaid; a daeth dirprwyaeth o Hwngari i ddiolch iddo am ei gefnogaeth. Pleidiodd ryddhad y caethion yn America, yn bennaf drwy ei lyfr Aelwyd F'ewythr Robert, a seiliwyd ar Uncle Tom's Cabin. Ef oedd ‘tad’ y ddarlith boblogaidd, a throes hi'n gyfrwng i ledaenu ei ffydd wleidyddol, ac i hyfforddi ar bynciau fel seryddiaeth, daeareg, a Pantycelyn.’

Y mae swm ei farddoniaeth yn enfawr. Cyhoeddodd Gweithiau Barddonol Gwilym Hiraethog, 1855, lle ceir ei awdl i ‘Heddwch,’ sy'n cynnwys y cywydd enwog i'r gof, a'r gân ‘Atgofion Mebyd’; Emmanuel, i, 1862; ii, 1867, arwrgerdd hirfaith yn y mesur di-odl; Tŵr Dafydd, sef Salmau Dafydd ar Gân, 1875; Cathlau Henaint, 1878. Ei emyn mwyaf adnabyddus yw ‘Dyma gariad fel y moroedd.’ Mewn rhyddiaith ceir Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, 1877 — cafwyd argraffiad newydd yn 1940; Llythyrau'r Hen Ffarmwr, 1878 — detholwyd o'r Amserau, caed detholiad arall yn 1939; Cyfrinach yr Aelwyd, 1878; Cofiant y Parch. W. Williams o'r Wern, 1842 — troed i'r Saesneg gan J. R. Kilsby Jones yn 1846; Rhyddweithiau Hiraethog, 1872; Y Dydd Hwnnw, 1862, drama ar droad allan y ddwy fil yn 1662; Darlithiau Hiraethog, 1907. Ymhlith ei weithiau diwinyddol ceir Y Cyfarwyddwr, 1833, holwyddoreg ar brif bynciau'r ffydd Gristnogol; Traethawd ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig, 1841; Providence and Prophecy, 1851; Nodiadau ar yr Epistol at yr Hebreaid, 1866; Koheleth, 1881, cyfrol o bregethau, ac ail eto yn 1910. Dyfarnwyd iddo yn 1882 fathodyn cyntaf Cymdeithas y Cymmrodorion, ond bu farw cyn ei dderbyn.

Llyfryddiaeth:

  • Cofiant Gwilym Hiraethog, gan Thomas Roberts a D. Roberts;
  • William Rees: a Memoir, gan ei fab E. Rees (gol. Elvet Lewis);
  • H.E.A.C., v, 407-12;
  • Y Gwyddoniadur (ail arg.), x, 799-811;
  • Welsh Religious Leaders in the Victorian Era, 204-27;
  • T. Eirug Davies, ‘Cyfraniad Dr. William Rees (Gwilym Hiraethog) i Fywyd a Llên ei Gyfnod’ (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1931);
  • D.N.B.

Awdur:

Y Parch. Thomas Eirug Davies, M.A., B.D. (1892-1951), Llanbedr-pont-Steffan



Mab iddo oedd HENRY REES (1837-1908), a ddechreuodd bregethu yn 1856. Bu yn athrofa Aberhonddu (1859-1862), ac yna'n weinidog yng Nghaerlleon Fawr (1862-1885) a Bryngwran (Môn) o 1885 hyd ei ymddeoliad yn 1897. Bu f. 24 Chwefror 1908. Cyhoeddwyd cofiant iddo, gyda rhai o'i bregethau, gan R. P. Williams, yn 1909.

Llyfryddiaeth:

  • R. Hughes, Enw. Môn;
  • Y Dysgedydd, 1908, 185, a 1909, 315;
  • gw. hefyd sylw E. T. Jones yn Ser. G., 1936, 151.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.