REES, WILLIAM (1808-1873), argraffydd a chyhoeddwr;
g. 8 Gorffennaf 1808 yn y Ton gerllaw Llanymddyfri — am ei dras, gw. yr ysgrif ‘Rees o'r Ton.’ Dysgodd argraffu yn Henffordd, ond yn 1829 sefydlodd ef a'i ewythr D. R. Rees wasg yn Llanymddyfri; ciliodd D. R. Rees yn 1835, ond daliodd William Rees ati, a thyfodd y wasg hon yn un o'r enwocaf yng Nghymru, ac ond odid yr orau oll ohonynt yn ei chrefftwaith. Hyhi a gyhoeddodd, 1834, Gylchgrawn ‘Alun’ (John Blackwell) [q.v.]. Diddorol hefyd yw'r cyswllt rhwng y Reesiaid a ‘Brutus’ (David Owen) [q.v.]. Bu ef yn golygu Lleuad yr Oes, a argreffid gan Jeffrey Jones. Wedi marw Jones (1830) daeth ei wasg i feddiant y Reesiaid — a ‘Brutus’ gyda hi; a chychwynnwyd Yr Efangylydd (1831 — Mai 1835). Newidiodd golygiadau gwleidyddol ac eglwysaidd ‘Brutus’; bu farw'r Efangylydd, ac yn ei le cychwynnodd y Reesiaid y cylchgrawn Anglicanaidd adnabyddus iawn, Yr Haul, a ‘Brutus’ yn olygydd iddo. Ond ar ôl i'w ewythr ymddeol, a chyda help David Jones Roderic, y bwriodd William Rees i'r dwfn fel argraffydd o'r radd flaenaf. Yn 1848-9, argraffodd y tair cyfrol wych o Fabinogion yr arglwyddes Charlotte Guest [q.v.]. O'r wasg hon hefyd y daeth cynhyrchion y ‘Welsh MSS. Society,’ 1836; ymysg y rhain gellir enwi Heraldic Visitations Lewis Dwnn, 1846; Llyfr Llandaf, 1850; Iolo MSS., 1852; Lives of the Cambro-British Saints, 1853; Dosparth Edeyrn Davod Aur, 1856; Meddygon Myddfai, 1856; Barddas, 1862. Ymhlith lliaws llyfrau eraill gwasg Llanymddyfri, ni ellir yma ond enwi Eminent Welshmen, 1852; Literary Remains ‘Carnhuanawc’ (yn rhannol â Longmans, Llundain), 1854-5; a llyfr ‘Ieuan Gwynedd,’ 1848, yn erbyn adroddiad dirprwywyr addysg 1846-7. Gyda hyn oll, cymerth Rees ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei dref; a bu'n gasglydd cronfa adeiladu ysgol Thomas Phillips (1760-1851) [q.v.] yn Llanymddyfri. Bu f. 13 Gorffennaf 1873, a chladdwyd yn Llandingad.
Llyfryddiaeth:
- Tonn MSS. yn Llyfrgell Dinas Caerdydd;
- Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales
Awdur:
Selwyn Jones, Mus.Bac., (1906-81), Hirwaun