Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHIWALLON ap CYNFYN (bu f. 1070 ), brenin Powys ;

ail fab Cynfyn ap Gwerstan ac Angharad , merch Maredudd ab Owain , a brawd Bleddyn . Bu'n gyd-reolwr Powys o 1063 . Lladdwyd ef ym mrwydr Mechain . Bu Meilyr , ei fab, farw yn 1081 , a daeth Gwladus , ei ferch, yn wraig Rhys ap Tewdwr .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54