RHUN ap MAELGWN GWYNEDD (fl. 550)

Enw: Rhun ap Maelgwn Gwynedd
Plentyn: Beli ap Rhun
Rhiant: Maelgwn Gwynedd
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Hopkin Davies

Dilynodd ei dad, Maelgwn Gwynedd, yn rheolwr gogledd-orllewin Cymru. Os gellir credu'r hanes a geir yn fersiwn Gwynedd ('Venedotian code') cyfreithiau Hywel Dda, un amgylchiad hanesyddol yn unig sydd i'w gysylltu â Rhun. Pan ddychwelodd Clydno Eiddin a Rhydderch Hael i'r 'Gogledd' ar ôl diffeithio Arfon i ddial am farw Elidyr dywedir i Rhun ad-dalu trwy arwain byddin cyn belled ag afon Forth. Nid oes yn unman gyfeiriad ato'n ymladd â'r Saeson. Yn ôl traddodiad yr oedd Rhun yn dal (cf. ' Rhun Hir') ac yn fawr o gorffolaeth ac yn bennaf gŵr ymhlith rheolwyr Cymreig eraill (cf. y cyfeiriad yn ' Breuddwyd Rhonabwy'). Dilynwyd ef gan ei fab BELI.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.