RHYGYFARCH (' Ricemarchus ' 1056/7 - 1099),

Enw: Rhygyfarch
Dyddiad geni: 1056/7
Dyddiad marw: 1099
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Barddoniaeth
Awdur: William Hopkin Davies

yr hynaf o bedwar mab Sulien 'Ddoeth', a oedd yn frodor o Llanbadarn Fawr ac a fu ddwywaith yn esgob Tyddewi. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn perthyn i deulu o glerigwyr ac o dras uchel, ychydig, os dim, a wyddys am ei fywyd. Dywedir mai ei dad fu ei unig athro. Y mae'n fwy na thebyg ei fod yn offeiriad yn Nhyddewi (eithr nid yn esgob fel y dywed 'Annales Cambriac,' MS. C). Ymysg ei weithiau a gadwyd y mae buchedd Dewi, barddoniaeth Ladin mewn sallwyr sydd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a ' Cwynfan ' (a briodolir iddo yn B.M. Cotton MS. Faustina C. i); cân Ladin fer yw'r olaf yn cwyno oblegid gormes cynyddol y Normaniaid ar y Cymry. Ysgrifennwyd ei brif waith, a hwnnw'n ddiweddarach na'r lleill, c. 1090, i bleidio hawliau Tyddewi i fod yn brif esgobaeth Cymru ac yn annibynnol ar Gaergaint. Sylfaenodd yr awdur ei waith, sydd yn 68 o benodau, 'ar lawysgrifau hen iawn' (Vita, pen. 66) a gafodd, gan mwyaf, yn Nhyddewi ei hunan. Y mae'r arddull yn chwyddedig a chynnwys y llyfr yn gymysgedd, fel pe ar ddamwain, o'r gwyrthiol a'r hanesyddol. Bu Rhygyfarch farw yn 43 mlwydd oed, gan adael mab SULIEN (a fu farw 1146), a addysgwyd gan glerigwyr Llanbadarn ac a ddaeth yn enwog fel athro yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.