Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS ap TEWDWR (bu f. 1093 ), brenin Deheubarth ; ŵyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda . Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin [q.v.] . Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd [q.v.] , eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan [q.v.] , fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn . Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith trwy dde Cymru gan ddangos ei awdurdod yn y rhan honno o'r wlad, a theithio cyn belled â Thyddewi ; y mae'n weddol sicr i'r ddau frenin ddyfod i gyd-ddealltwriaeth ar yr achlysur hwn ynglŷn â'r telerau da a gâi ffynnu rhyngddynt ac a barhaodd hyd ddiwedd teyrnasiad William . Ymhen ychydig flynyddoedd cofnodir fod Rhys yn talu i'r brenin £40 y flwyddyn am Ddeheubarth a thrwy hynny yn dyfod yn fasal i Goron Lloegr ac yn gosod i lawr gynreol a oedd i gael effeithiau parhaol ar gysylltiadau Lloegr a Chymru â'i gilydd. O hynny ymlaen, ar wahân i drasiedi ei funudau olaf, nid oedd raid i Rys namyn gwrthweithio effeithiau eiddigedd ei gyd-dywysogion. Yn 1088 ymosodwyd arno gan reolwyr ieuainc Powys a bu raid iddo fyned i Iwerddon am loches. Eithr nid hir y bu cyn dychwelyd, a chyda chymorth Daniaid gorchfygodd ei wrthwynebwyr yn llwyr. Drachefn, yn 1091 , fe'i gwrthwynebwyd gan rai o'i wŷr ei hunan yn Nyfed ; ceisiai y rhain ddychwelyd y frenhiniaeth i linach hŷn Howel Dda , ym mherson Gruffydd ap Maredudd ab Owain [q.v.] . Gorchfygwyd y gwrthryfelwyr yn Llandudoch ar aber Teifi , a lladdwyd Gruffydd . Yn y cyfamser yr oedd y goncwest Normanaidd yn y de wedi ennill nerth newydd wedi marw'r brenin William yn 1087 ac ymysg yr hen diriogaethau a gymerasid yr oedd hen frenhiniaeth Brycheiniog . Wrth wrthwynebu cyrchoedd y Normaniaid yn y rhan bwysig honno o'r wlad — yr oedd yn oll-bwysig yng ngolwg Rhys am ei bod ar y ffordd i'w diriogaethau ef ei hun — y cyfarfu Rhys â'i ddiwedd, o dan amgylchiadau na ellir bod yn sicr yn eu cylch, yn ymyl Aberhonddu . Ef, mewn gwirionedd, oedd y diwethaf o hen frenhinoedd y Deheubarth ; pan ailosodwyd y llinach mewn awdurdod, yn nes ymlaen, gan ei ŵyr, Rhys ap Gruffydd [q.v.] , yr oedd yr awyrgylch politicaidd yn gwbl wahanol. Gwraig Rhys ap Tewdwr oedd Gwladus , merch Rhiwallon ap Cynfyn . Goroeswyd ef gan ddau fab — Gruffydd [q.v.] a Hywel — a merch, Nest [q.v.] .

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , 1911, 1930 ;
  • Dictionary of National Biography ;
  • History of Gruffydd ap Cynan (1054–1137) (gol.): , 1910 .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth.