Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS BRYCHAN ( c. 1500 ), bardd .

Y mae 27 o gerddi o'i waith ar gael mewn llawysgrifau, yn eu plith awdl a marwnad i Rosser Fychan o Dalgarth , awdl foliant i Lewis ap Risiart Gwyn o'r Fan , a cherddi i Einion Fychan o'r Tywyn , Watkin Fychan o Dreffylip , Syr Morgan ap Syr Sion Farchog o Dredeigr , William Herbert , ac eraill. Ceir y rhan fwyaf o'i waith yn y llawysgrifau canlynol: NLW MS. 970 (177, 184), 6511 (37, 129), 13072 (177, 179) ; Pen. MSS. 55 (3, 21, 97, 131, 153, 185), 60 (87), 83 (67), 96 (51), 100 (84, 87) ; Llanst. MSS. 133 (28, 29, 728), 134 (143, 153, 300) ; Gwysaney MS. 38 (24, 27, 61) ; Wynnstay MS. 1 (59, 60) ; Hafod MS. 20 (126, 234) ; ‘Llyfr Hir Llanharan’ (98, 101, 209) .

Ffynonellau:

  • NLW MS 9271 (257);
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography (1803) , 305;
  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (1928) .

Awdur:

Nansi Ceridwen Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54