RHYS FARDD ('Y Bardd Bach,' ' Bardd Cwsg') (fl. c. 1460-80), brudiwr

Enw: Rhys Fardd
Ffugenw: Y Bardd Bach, Bardd Cwsg
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brudiwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

o Ystum Llwynarth (Peniarth MS 94 (175), Llanstephan MS. 119 (121). Perthyn llawer iawn o ddaroganau a briodolir iddo i gyfnod blaenoriaeth y Tuduriaid, serch yr ymddengys rhai fel pe'n perthyn i gyfnod cynharach. Nodweddir ei waith gan ddisgwyl y brudwyr am Owain i waredu'r genedl, a chan gasineb chwerw tuag at y Saeson : ' yna y mai melineu kyminot or frydieu o waet.' Y mae dylanwad ' Armes Prydain ' yn drwm ar un ddarogan a briodolir iddo, ac y mae'n bosibl fod dylanwad ' Efengyl Dragwyddol ' Joachim ar un arall. Priodolir tua 90 o ddaroganau iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.