RHYS, HYWEL (1715? - 1799), bardd

Enw: Hywel Rhys
Dyddiad geni: 1715?
Dyddiad marw: 1799
Priod: Catherine Rhys (née Morgan)
Plentyn: Rhys Rhys
Rhiant: Howell Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

o blwy'r Faenor Wen, sir Frycheiniog. Hwyrach mai ef yw'r Howell fab Howell Rees a fedyddiwyd yn Vaynor 10 Medi 1715. Bu am ysbaid yn ffermio tyddyn Blaen y Glais ym mhlwy'r Faenor, ond dywedir iddo golli'r fferm trwy ddichell, ac iddo fynd i gadw tafarn a elwid Pantydŵr, ger Garn Pontsticyll, sir Frycheiniog. Enw ei wraig oedd Catherine, a hwyrach mai eu priodas hwy yw'r briodas rhwng Howell Rice a Chatherine Morgan a gofnodir yng nghofrestri'r Faenor, 1 Ionawr 1741/2. Priodolir iddo bedair cân, ' Cân y Daear Fochyn,' ' Cân yn cynnwys achwyniad y bardd am gydmares,' ' Cân yr hwsmon,' ' Cân a gyfansoddwyd yn amser yr hynod ormeswr Morgan Siencyn Dafydd.' Cofnodir claddu ' Howel Rees ' yn y Faenor ar 3 Mehefin 1799.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.