Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS , Syr JOHN ( 1840 - 1915 ), ysgolhaig Celtig ;

g. 21 Mehefin 1840 yn Aberceirio , Cwmrheidol , sir Aberteifi , medd y cofrestrydd swyddogol. Mab ydoedd i Hugh Rees , gweithiwr ar y ffarm lle'r oedd y bwthyn y ganed ef, ond triniai ei dad ychydig o dir ei hun yn ogystal. Addysgwyd ef i ddechrau yn Ysgol Frutanaidd Ponterwyd , ac yna ym Mhenllwyn , mewn ysgol gyffelyb, saith militir i ffwrdd, lle bu'n ddisgybl-athro . Oddi yno aeth i'r Coleg Normal ym Mangor , ac ar derfyn ei gwrs, fe'i penodwyd yn athro ysgol Frutanaidd Rhos-y-bol , Môn. Ymddiddorai mewn ieitheg a hynafiaethau , a daeth i sylw'r canghellor James Williams , Llanfairynghornwy , a Morris Williams (‘ Nicander ’), Amlwch [qq.v.]. Dywedir mai un o'r rhain a'i cyflwynodd i Charles Williams [q.v.] , pennaeth Coleg Iesu , Rhydychen , a ffrwyth hynny oedd cael ysgoloriaeth yn y coleg hwnnw, ac ymaelodi yno yn Hydref 1865 . Er prinned ei fanteision medrodd ennill gradd dda yn y clasuron (ail ddosbarth yn ‘Moderations’ a'r dosbarth blaenaf yn ‘ Lit. Hum. ’ yn 1869 ), a dewiswyd ef yn gymrawd o Goleg Merton . Heblaw dilyn y cwrs yn Rhydychen , astudiai yng ngwyliau'r haf ar y Cyfandir , ym Mharis a Heidelberg , ac yn 1870-1 yn Leipzig a Göttingen . Bu yn nosbarthiadau Curtius ac eraill, a sefydlodd ei fryd ar ymchwil ieithegol .

Yn 1871 , fodd bynnag, gadawodd yr Almaen , a dychwelodd i Gymru fel arolygydd ysgolion Fflint a Dinbych . Cafodd gyfle, a gwnaeth gyfle, wrth deithio o gwmpas, i astudio'r arysgrifau hynafol ar feini coffa ar hyd a lled Cymru . Erbyn 1874 yr oedd yn barod i roi cyfres o ddarlithiau ar ieitheg Gymreig yng Ngholeg Aberystwyth , a gyhoeddwyd yn 1877 gyda'r teitl, Lectures on Welsh Philology (ail arg., 1879 ). Dyma ei lyfr cyntaf, ond cyhoeddasai cyn hyn nifer o erthyglau pwysig yn y tair cyfrol cyntaf o'r Revue Celtique ar y glosau yn llawysgrif Luxembourg , ar darddiadau geiriau (lle ceir datganiad o'r ddeddf ieithegol a elwir byth yn ‘ Rhys's Law ,’ sef bod ‘i’ gydsain mewn Celtig yn rhoi ‘dd’ yn Gymraeg ), ac ar ddiflaniad ‘p’ Arieg yn yr ieithoedd Celtig . Dechreuasai hefyd yn Arch. Camb. ar ei drafodaethau ar yr arysgrifau cynnar, cyfres a barhaodd ar hyd ei oes, heblaw erthyglau ar fenthyciadau i Gymraeg o'r Lladin , Groeg , a Hebraeg . Cyn gynhared â 1865 gwnaethai gyfraniad arbennig i astudiaethau Celtig trwy ei ysgrif ar ‘ The Passive Verbs of the Latin and the Keltic Languages ’ ( Trans. of the Philological Soc. , 1865 ). Felly, pan sefydlwyd Cadair Geltig yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , yn 1877 , nid oedd betrustod nad ef a ddylid ei benodi i'w llenwi. Yr un amser gwnaed ef yn gymrawd anrhydeddus o'r coleg; ac yn 1881 yn gymrawd a thrysorydd . Daliodd swydd trysorydd yno hyd 1895 , pryd yr etholwyd ef yn bennaeth y coleg , a bu'n bennaeth o hynny hyd ei farwolaeth ar 17 Rhagfyr 1915 .

Dyma restr o'i anrhydeddau: urddwyd ef yn farchog , 1907 ; yn aelod o'r Cyfrin Gyngor , 1911 ; Ll.D. Edinburgh , 1893 ; D.Litt. Cymru , 1902 ; bathodyn y Cymmrodorion , 1912 ; cymrawd o'r Academi Brydeinig , 1903 . Bu'n aelod o bwyllgor adrannol arglwydd Aberdâr ar addysg Cymru , 1881 ; ysgrifennydd y comisiwn ar helynt y degwm yng Nghymru , 1887 , a'r un ar gau'r tafarnau yng Nghymru ar y Sul , 1889 ; aelod o'r comisiwn ar y tir yng Nghymru , 1893 ; ar addysg brifysgol yn Iwerddon , 1901 ; ar Brifysgol Cymru a'i cholegau, 1907 ; ar brifysgol genedlaethol i Iwerddon , 1908 ; a chadeirydd y comisiwn ar gofarwyddion hynafol Cymru . Ef hefyd oedd cadeirydd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym , Rhydychen . Yn y cyfryw gynghorau cyflawnodd wasanaeth amhrisiadwy i ddysg, i addysg, ac i ddiwylliant Cymru yn arbennig. Trefnodd yr Academi Brydeinig ddarlith goffa flynyddol, ‘ The Sir John Rhys Memorial Lecture ,’ ac yn y gyntaf obonynt cynhwysodd ei ddisgybl, Syr John Morris-Jones [q.v.] , lyfryddiaeth lawn o'i weithiau cyhoeddedig. Yn y cofnod hwn ni ellir ond crybwyll y prif rai o'r rhestr gyfoethog amlweddog honno.

Ei ddiddordeb pennaf oedd ieitheg Geltig , yn arbennig yr hyn a eilw yn ieithyddiaeth Gymreig . Ar bwys ei ddarganfyddiadau lluosog yn y maes hwn medrodd gyfrannu yn hael i hanes cynnar y Celtiaid ym Mhrydain . I hel defnydd crwydrodd ar led yng ngorllewin Ewrop i astudio, mewn maes ac amgueddfa, arysgrifau Celtig , gan dalu sylw neilltuol i'r rhai mewn Ogam yng Nghymru ac Iwerddon . I'w dehongli rhaid oedd iddo o enwau'r duwiau a'r duwiesau lunio chwedloniaeth Geltig gynnar , ac yna olrhain goroesiad honno mewn saga a chwedl Wyddeleg a Chymraeg . Diwedd y daith ymchwil hon oedd casglu llên gwerin y Celt lle bynnag y caffai. Fel y cynyddai ei stôr deuai goleuni newydd iddo yn barhaus ar enwau lleoedd, ffurfiau geiriau, a ffeithiau hanes. Arloeswr oedd, ysgythrwr ffordd mewn coedwigoedd gwyllt. Nid oedd iddo ddinas barhaus mewn damcaniaeth derfynol: rhaid cadw meddwl agored ac ailddamcanu; a thrydydd ddamcanu. Ei rinwedd oedd ei ystwythder a'i barodrwydd i ddysgu — dawn anhepgor yr arloeswr. Hawdd i'r oes arall a elwodd ar ei lafur gyfrif ei rinwedd yn fai a chwyno oherwydd ei ddiffyg pendantrwydd. Profiad pob un, fodd bynnag, a geisiodd efelychu ei ymchwil yw fod ôl ei fwyall ef ym mhob cwr o'r goedwig. Achubodd y blaen ar bawb ym mhob adran o'r maes. Yna trwy help J. Gwenogvryn Evans [q.v.] dechreuodd ar y gwaith o ddarparu testunau cywir o'r llawlysgrifau cynnar , i roi sail gadarn i ysgolheigion a'i dilynai.

Dyma ei brif gynhyrchion o 1877 ymlaen; Celtic Britain , 1882 ; ‘ Notes on the Language of Old Welsh Poetry ’ ( Revue Celtique ), 1885 ; Celtic Heathendom ( Hibbert Lectures ), 1886 ; Studies in the Arthurian Legend , 1891 ; Studies in Early Irish History ( Brit. Acad. ), 1893 ; Outlines of the Phonology of the Manx Gaelic , 1894 ; ‘ Notes on the Hunting of Twrch Trwyth ’ ( Trans. Cymm. ), 1894-5 ; Celtic Folklore, Welsh and Manx , 1901 ; Celtae and Galli ( Brit. Acad. ), 1903 ; ‘ The Origin of the Welsh Englyn and Kindred Metres ’ ( Cymm. , xviii), 1905 ; The Celtic Inscriptions of France and Italy ( Brit. Acad. ), 1906 ; The Celtic Inscriptions of Cisalpine Gaul ( Brit. Acad. ), 1913 ; Gleanings in the Italian Field of Celtic Epigraphy ( Brit. Acad. ), 1914 . Fel golygydd , Pennant 's Tours in Wales , 1883 . Fel cydolygydd , gyda Dr. Gwenogvryn Evans , The Text of the Mabinogion ( Red Book of Hergest ), 1887 ; The Text of the Bruts ( Red Book of Hergest ), 1890 ; The Text of the Book of Llan Dav ( Gwysaney MS. ), 1893 ; gyda Syr J. Morris-Jones , The Elucidarium , 1894 ), gyda D. Brynmor-Jones , The Welsh People , 1900 .

Ffynonellau:

  • J. Morris-Jones , Sir John Rhys , Llundain, 1926 , 1925 ;
  • Proceedings of the British Academy ;
  • Oxford Dictionary of National Biography (gan John Fraser), 1927 .

Awdur:

Syr Ifor Williams, D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1881-1965), Pontlyfni

Atodiadau a chywiriadau:

RHYS , Syr JOHN ( Bywg. , 793)

g. yn Aberceiro (nid Aberceirio ). Pr. yn 1872 Elspeth Hughes-Davies (bu f. 1911 ) o Lanberis a bu iddynt ddwy ferch.

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54