RHYS, IFAN THOMAS (fl. canol y 18fed ganrif), bardd

Enw: Ifan Thomas Rhys
Rhiant: Thomas Rees James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Llwyndafydd ym mhlwyf Llandysilio, Sir Aberteifi, yn fab i Thomas Rees James. Symudodd o Lwyndafydd ac ymsefydlodd yn Llanarth yn yr un sir. Crydd oedd wrth ei alwedigaeth. Cyfansoddodd farwnad ar farwolaeth Jenkin Jones o Lwynrhydowen. Cyhoeddwyd hi yn Hymnau … o waith y Diweddar Barchedig Mr. Jenkin Jones, 1768. Cyhoeddwyd (ail arg.) ei gân, Y Maen Tramgwydd, yn 1799, ac ymddangosodd casgliad o'i weithiau yn 1842 yn Diliau'r Awen, dan olygiaeth W. H. Griffiths.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.