RICHARDS
,
HENRY BRINLEY
(
1819
-
1885
),
cerddor
;
g.
13 Tachwedd 1819
yn
Quay Street
,
Caerfyrddin
, mab
Henry
ac
Elizabeth Brinley
Richards
.
Cadwai ei dad siop gerddoriaeth
, ac efe oedd
organydd
eglwys S. Pedr
. Bwriadai ei dad ei ddwyn i fyny'n
feddyg
, ond at gerddoriaeth yr oedd ei atyniad. Yn
eisteddfod Gwent a Morgannwg
,
1834
, enillodd ar gyfansoddi amrywiadau ar yr alaw
Gymreig
, ‘
Llwyn Onn
,’ gyda chanmoliaeth gan
‘
Bardd Alaw
,’
y beirniad. Parodd hyn iddo roddi i fyny y bwriad o fynd yn feddyg, a chyflwynodd ei holl amser i gerddoriaeth. Cafodd y
dug Newcastle
yn noddwr, ac anfonwyd ef i'r
Academi Gerddorol Frenhinol
. Yn
1835
enillodd
ysgoloriaeth y brenin
, ac enillodd hi drachefn yn
1837
. Ar anogaeth ei noddwr aeth i
Paris
am gwrs o addysg, ac ar ei ddychweliad i
Lundain
penodwyd ef yn
is-athro
yn yr
Academi Gerddorol
, ac yn ddiweddarach gwnaed ef yn
gyfarwyddwr yr academi
. Ef a
gychwynnodd yr arholiadau lleol mewn cysylltiad â'r academi
, a phenodwyd ef i arolygu y rhai hyn yng
Nghymru
a
Sgotland
. Ystyrrid ef y
chwaraewr piano
gorau yn y deyrnas, ac enillodd enwogrwydd fel
athro ar y piano
. Cadwodd ei gysylltiad â
Chymru
, a gwasnaethai fel
beirniad yn yr eisteddfod genedlaethol
, bu'n flaenllaw yng
Nghymdeithas y Cymmrodorion
o
1873
hyd ei farw. Cymerai
ddiddordeb yn y delyn deir-res
, a thraddododd gyfres o ddarlithiau ar ‘
Cerddoriaeth Gymreig
’ Y mae ei gyfansoddiadau yn niferus.
Trefnodd gerddoriaeth y meistri i'r piano
mewn tair cyfrol,
Classical Pianist
,
Student Practice
, a'r
Pianist Library
, ynghyd â darnau gwreiddiol — ‘
overture’ i gerddorfa yn F leiaf
(canwyd hi yn
eisteddfod Caerlleon
,
1860
), ‘
Concerto’ i'r piano a'r gerddorfa
, darnau corawl (‘
Cenwch Udgorn yn Seion
,’ ‘
Let the hills resound
,’ ac eraill). Y gwaith a'i dygodd i sylw ydoedd ‘
Ar Dywysog Gwlad y Bryniau
’ (‘
God Bless the Prince of Wales
’),
1862
; ar ddydd priodas
tywysog Cymru
yn
1863
canwyd y gân trwy bob rhan o'r wlad gan filoedd o gantorion. Yn
1873
dug allan
Songs of Wales
, wedi eu trefnu i'r llais a'r piano. Cyhoeddodd hefyd
Welsh Choir
, sef alawon
Cymreig
wedi eu trefnu i bedwar llais. Bu f.
2 Mai 1885
, a chladdwyd ef ym mynwent
Brompton
,
Llundain
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Geninen
, 1883–1928. Dynodir rhifyn arbennig Mawrth weithiau fel ‘
(Gwyl Dewi)’ ac weithiau fel ‘ (D.).’
,
1886
, 56, 281;
-
Dictionary of National Biography
;
-
The Musical Times
, 1848 ff
,
1885
;
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
. Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Groves
,
Groves’ Dictionary of Music and Musicians
(gol.): , 4ydd arg., 1940
;
-
Y Cerddor. Cylchgrawn misol. [O 1922 ymlaen fe'i adnabyddir fel Y Cerddor
Newydd. The Welsh musical magazine.]
, Ionawr
1893
;
-
Y Cymmrodor
, 1877 ff
,
1951
, pen. vi.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn.