RICHARDS, JEDEDIAH (1784? - 1838), emynydd, a llyfrwerthwr teithiol, cymeriad hynod

Enw: Jedediah Richards
Dyddiad geni: 1784?
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd, a llyfrwerthwr teithiol, cymeriad hynod
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Evan David Jones

a breswyliai dros y rhan fwyaf o'i oes yn Nhan-yr-esgair, Ffald-y-brenin, plwyf Llan-y-crwys, Sir Gaerfyrddin. Galwai ei hun yn ' Addysgwr Rhydd-ymarfer Cristnogaeth,' ac yn ' peripatetic philosopher.' Cyhoeddai faledi a llyfrynnau a gwerthai lyfrau a chrynhoi tanysgrifiadau at gyhoeddiadau a chylchgronau. Teithiodd yn helaeth yng Nghymru a chasglodd stôr o wybodaeth am lenyddiaeth Gymraeg. Dechreuodd gadw ysgol ganu o dan yr enw ' Christian Singing School ' yn Llanymddyfri, 29 Rhagfyr 1819. O 1821-3 ac yn ddiweddarach bu'n cadw'r hyn a elwid ganddo yn ' Ysgol er Rhydd-ymarfer Cristianogol ' yng Nghaerfyrddin a lleoedd eraill. Claddwyd ef ym mynwent S. Pedr, Llanbedr-Pont-Steffan, 9 Mawrth 1838, yn 54 oed. Ei waith cyhoeddedig cyntaf oedd Hanes Crefyddau'r Byd (Caerfyrddin, 1820). Cyhoeddodd ddalen, Cyhoeddiad, neu Hyfforddiad ar Reolau yr Ysgol Ganu i Gristion (Trefriw, 1821), a rhaglen ysgol, yn Aberystwyth tua 1824, o dan y teitl A Publication of the Purposes and Articles of the Free Christian Practice School, in Sundry Places, by Jedeiah Richard, T - r. 1820. Cyhoeddiad o Reolau neu Hyfforddiadau yr Ysgol er Rhydd-Ymarfer Crist'nogaidd. Gan Jedeiah Richard, Ffald-y-Brenin, Hyfforddwr ac Addysgwr yr Ysgol er Rhydd-Ymarfer Cristianogol, yn Nghaerfyrddin a Lleoedd ereill, 1821, 1822, 1823 (pedwar tudalen). Yng Nghaerfyrddin yn 1825 cyhoeddodd gasgliad o hymnau, yn cynnwys rhai o'i waith ei hun, o dan y teitl Diddanwch y Pererinion. Priodolir y llyfrynnau canlynol iddo hefyd: Cynghorion Da a Buddiol … ynghyd a Hymnau, (Caerfyrddin, 1823); Marwnad David Evans, Morfa (Caernarfon, 1825); Marwnad … Ebenezer Morris, Blaen y Wern, Troed yr Aur (Caernarfon, 1825); Golwg ar Ddrych y Greadigaeth (Aberystwyth, 1826); Hanes Ymneillduwyr Protestanaidd (Caerfyrddin, 1826); Palmer's Catechism (Caerfyrddin, 1827); Casgliad o Hymnau, sef Pleser y Pererinion (Aberteifi, 1827); Cofiant byr D. Dafis, Castell Hywel (Caerfyrddin, 1827); Hanes cywir am Lofruddiaeth Hannah Davies (Aberystwyth, 1829); Addysg ac Amddiffyniad (Caerfyrddin, 1832); a Marwnad Ebenezer Richards (Caerfyrddin, 1837). Nai, fab brawd, iddo ydoedd Dr. Timothy Richard (1845 - 1919).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.