Cywiriadau

RICHARD(S), JOHN (1720 - 1764), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, prydydd ac emynydd

Enw: John Richard (S)
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1764
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, prydydd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1720 yn Bryniog Uchaf, Llanrwst; trowyd ef at grefydd tua 1740; dechreuodd gynghori tua 1749; bu farw yn 1764. Yn Awduron Sir Ddinbych a'u Gweithiau (Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, rhan 3, gan Owen Williams), 146, y ceir y rhestr lawnaf o'i weithiau; gweler hefyd Y Traethodydd, 1886, 278, a 1887, 122; Llyfryddiaeth y Cymry, 411; Ashton, 287-8.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

RICHARD(S), JOHN (1720 - 1764)

Nid oedd yn emynydd; ar gam y priodola Gwilym Lleyn ac Owen Williams (Awduron Sir Ddinbych) iddo emynau - awdur y rheini oedd John Richards o Lansamlet, (fl. 1743-84).

Awdur

  • Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993)

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.