Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARDS , THOMAS ( 1754 - 1837 ), clerigwr ;

g. yn yr Hirnant , Pont Erwyd , sir Aberteifi , 24 Ebrill 1754 , mab Richard Thomas a Jane ei wraig. Yn 19 oed aeth i ysgol Ystrad Meurig , ac yno cyfarfu â Thomas Jones ( Creaton ) [q.v.] . Daeth y ddau'n gyfeillion mynwesol a pharhau felly hyd ddiwedd eu dyddiau. Bu Richards yn cadw ysgol yn Nhalybont , sir Aberteifi , am dair blynedd, ac yn 1779 priododd Jane , ferch David Lloyd o'r Cymmerau ym mhlwyf Llanbadarn Fawr . Yr un flwyddyn, ym Medi , urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Warren a'i drwyddedu, yn olynydd i Thomas Jones uchod, i guradiaeth Llangynfelin a'r Eglwysfach . Derbyniodd urddau offeiriad yn 1780 . Yn ystod y blynyddoedd hyn âi'n aml i Langeitho i wrando ar Ddaniel Rowland [q.v.] yn pregethu. Yn 1784 aeth i Lan-ym-Mawddwy yn gurad , yn olynydd i Thomas Charles [q.v.] , a bu'n gwasnaethu yno am 15 mlynedd ar gyflog o £30 y flwyddyn. Cadwai ysgol yno hefyd. Ar ôl i Thomas Jones (uchod) ddwyn ei achos i sylw'r esgob Bagot o Lanelwy ac eraill, penodwyd ef yn ficer Darowen , ger Machynlleth , a'i sefydlu a'i osod yno Awst 1800 . Bu yno yn weithgar iawn hyd ei farw, 2 Rhagfyr 1837 ; claddwyd ef yn Narowen , ac y mae yno goflech, iddo ef a'i wraig ( 1756 - 1841 ).

Bu i Thomas a Jane Richards wyth o blant, sef pum mab a thair merch. Codwyd pob un o'r meibion yn glerigwyr .



Yr hynaf oedd RICHARD RICHARDS ( 1780 - 1860 ). Ganwyd ef 21 Tachwedd 1780 , a chafodd ei addysg yn Ystrad Meurig . Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Burgess o Dyddewi ym Medi 1808 , a'i drwyddedu i guradiaethau Llanddeiniol a Nantcwnlle , sir Aberteifi ; bu'n cadw ysgol hefyd yn Nantcwnlle . Derbyniodd urddau offeiriad yn 1809 ac yn 1811 aeth i Lanbrynmair yn gurad ac yn ysgolfeistr . Yn Rhagfyr 1816 symudodd i Gaerwys yn sir y Fflint ac ar ôl deng mlynedd yno yn gurad codwyd ef yn rheithor a bu yno hyd 1849 . Yna aeth yn ficer i Feifod , sir Drefaldwyn , lle y bu f. 3 Ebrill 1860 . Claddwyd ef yn Llangynyw . Heblaw ei waith fel offeiriad a phregethwr , bu'n gefnogwr selog i fudiadau diwylliannol a chenhadol , a chyhoeddodd bregethau, traethodau, a chyfieithiadau .


Ganwyd yr ail fab, DAVID RICHARDS (‘ Dewi Silin ’; 1783 - 1826 ) ar 12 Ebrill 1783 , a'i addysgu yn ysgol ramadeg Dolgellau ac yn Ystrad Meurig . Urddwyd ef yn ddiacon 1809 gan yr esgob Burgess a'i drwyddedu i guradiaeth Penbre , ger Llanelli . Cafodd urddau offeiriad yn 1810 , a gwasnaethu fel curad yn y Drenewydd , Nantglyn , Llys Meirchion (?), a Llansilin , cyn ei sefydlu'n ficer Llansilin , Awst 1819 . Priododd Eleanor Williams yn Amwythig , 19 Mehefin 1823 , a bu iddynt fab a merch. Bu f. 4 Rhagfyr 1826 a'i gladdu yn Llansilin , sir Ddinbych . Adnabyddid ef fel ‘ Dewi Silin ,’ a chymerth ran amlwg yn adfywiad yr eisteddfod yn neuddegau'r ganrif ; bu hefyd yn ysgrifennydd Cymreigyddion Powys , a chadwai filgwn .


THOMAS RICHARDS ( 1785 - 1855 )

oedd y trydydd mab; g. 3 Mehefin 1785 . Cafodd ei urddo'n ddiacon ym Medi 1810 gan yr esgob Cleaver a'i drwyddedu i guradiaeth Llan-ym-Mawddwy . Cafodd urddau offeiriad Gorffennaf 1811 , ac ymaelododd yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , Rhagfyr 1812 , ond ni chymerodd ei radd. Dechreuodd gadw ysgol yn Aberriw , sir Drefaldwyn , Mawrth 1813 , a bu'n gwasnaethu hefyd fel curad Trefaldwyn . Yr oedd mewn cysylltiad â nifer o wyr llengar ei gyfnod, a bu John Blackwell (‘ Alun ’) [q.v.] ac Evan Evans (‘ Ieuan Glan Geirionydd ’) [q.v.] yn ddisgyblion iddo. Bu'n ysgrifennydd lleol i Gymdeithas y Beiblau , ac yn hyrwyddwr cyhoeddi cylchgronau Cymraeg . Pan wrthododd ei dad fywoliaeth Llangynyw , oherwydd ei hen ddyddiau, cynigiwyd hi i Thomas y mab, a sefydlwyd ef Ebrill 1826 . Bu yno hyd ei farw, 27 Tachwedd 1855 , ac yno y'i claddwyd.


Aeth y pedwerydd, JOHN RICHARDS ( 1790 - 1854 ), i goleg S. Bees , ac urddwyd ef yn ddiacon Hydref 1823 , i guradiaeth Nun Monkton , ger Caer Efrog , gan yr esgob Law o Gaer . Cafodd urddau offeiriad Rhagfyr 1824 , ac yn Ebrill 1825 penodwyd ef yn ficer Llanwddyn , sir Drefaldwyn . Bu yno hyd ei farw, 28 Mawrth 1854 , a'i gladdu yn Llangynyw . Cymerai ddiddordeb mawr mewn amaethu .


LEWIS RICHARDS ( 1799 - 1860 )

oedd y pumed mab; g. ef 31 Rhagfyr 1799 . Aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , a graddio ym Mehefin 1824 . Urddwyd ef yn ddiacon yr un mis gan yr esgob Pelham o Lincoln , ac yn offeiriad Ionawr 1825 gan yr esgob Luxmoore o Lanelwy . Dechreuodd ar ei waith fel curad yn Rhuddlan , sir Fflint , Mai 1826 ; aeth i Lanerfyl , sir Drefaldwyn , yn ficer yn 1837 a bu yno hyd ei farw 20 Gorffennaf 1860 . Claddwyd yntau yn Llangynyw .

O'r tair merch, MARY ( 1787 - 1877 ), Jane ( 1794 - 1876 ), ac Elizabeth ( 1797 - 1840 ), yr oedd yr hynaf yn bersonoliaeth nodedig. Yn 1821 gwnaed hi'n aelod anrhydeddus o Gymdeithas y Cymmrodorion ‘ yn gydnabyddiaeth o'i sêl yn achos llên Cymru .’ Bu'n gohebu â nifer o lenorion blaenllaw ei chyfnod, copï odd lawer o farddoniaeth a llu o lythyrau , ac ymddiddorai mewn cerddoriaeth . Claddwyd hi yn Narowen .

Ffynonellau:

  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , dan blwyfi Llanerfyl, Llangynyw, Llansilin, Llanwddyn, Meifod;
  • A. O. Evans , A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer; or, the letters which were written preparatory to the revised edition of 1841. Annotated, with biographical sketches , Bangor, 1922 , iii, 320-4;
  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • Foster Alumni Oxonienses ;
  • S. David's episcopal registers (N.L.W.);
  • Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (N.L.W.) 266, 284, 285, 287;
  • J. H. Davies , yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd , i, 29;
  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’) , ‘Adgof uwch Anghof.’ Llythyrau lluaws o Brif Enwogion Cymru , 1883 ;
  • ymholiadau personol.

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54