RICHARDS, THOMAS (1800 - 1877), llenor Awstralaidd

Enw: Thomas Richards
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1877
Priod: Hannah Elsemere Richards
Rhiant: Elizabeth Richards
Rhiant: Thomas Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor Awstralaidd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ganwyd yn Nolgellau (bedyddiwyd yno 17 Awst 1800) yn fab i Thomas (cyfreithiwr) ac Elizabeth Richards. Aeth i ysgol Christ's Hospital (Llundain) yn 1809, a thrwyddedwyd ef yn feddyg yn 1823. Bu'n llenora yn Llundain, ac yn gyfaill i Hazlitt a llenorion eraill. Ymfudodd yn 1832 i Tasmania, gan weithredu fel meddyg ar fwrdd y llong; gweithiodd fel meddyg yn yr ynys am ychydig, ond troes at lenora, gan olygu cylchgronau a newyddiaduron a sgrifennu llawer o'u cynnwys - yr oedd cefndir Cymreig i amryw o'i storïau gorau. Yn Hobart, yn aelod o staff y Mercury, y bu farw yn 1877. Gelwir ef yn ' dad y Wasg yn Nhasmania.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.