ROBERTS, CADWALADR (bu farw 1708/9), bardd

Enw: Cadwaladr Roberts
Dyddiad marw: 1708/9
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

o Gwmllech Uchaf, Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn gyfoeswr i Huw Morys o Bont-y-meibion yn Nyffryn Ceiriog, a dengys y gerdd ymddiddan rhyngddynt eu bod mewn cysylltiad agos â'i gilydd; ceir copïau lled niferus o'r gerdd hon yn y llawysgrifau. Canodd ryw bum carol plygain, ac argraffwyd un ohonynt yn Blodeu-Gerdd Cymry gan Ddafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddwyd ei gerdd ddychan i'r frech wen yn yr un gyfrol. Canodd hefyd gerddi gofyn, ac y mae'r un i ofyn telyn i Siôn Prys gan Wiliam Llwyd o Langedwyn o ddiddordeb cymdeithasol (Cwrtmawr MS 128A (122)). Yr oedd ganddo'i gerddlyfr ei hun yn cynnwys cerddi ac englynion o waith rhai o'i gyfoeswyr, 'Llyfr Cadwaladr Roberts, 1676' (Cwrtmawr MS 227B ). Nodir y tonau uwchben copïau o'i gerddi yn y llawysgrifau. Bardd anghelfydd ydoedd, a gwnâi ddefnydd helaeth o ffurfiau llafar. Cofnodwyd ei gladdu 14 Chwefror 1708/9 yng nghofrestr Pennant Melangell. Ceir 'C.R. 1665' uwchben ffenestr bwthyn yng Nghwmllech. Dywedir fod y bardd yn hanu o deulu Robertiaid Branas yn Edeirnion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.