ROBERTS, DAVID ('Alawydd '; 1820 - 1872), cerddor

Enw: David Roberts
Ffugenw: Alawydd
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Ellen Roberts
Rhiant: Moses Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 16 Mehefin 1820 yn Talybont, Llanllechid, Sir Gaernarfon, mab Moses ac Ellen Roberts. Gof oedd y tad yn chwarel Cae Braich-y-cafn, Bethesda, ond oherwydd pellter' y ffordd i'r chwarel symudodd y teulu i Gaerberllan, Bethesda. Derbyniodd ' Alawydd ' ei addysg yn ysgolion Llandegai, Carneddi, a Llanllechid, ac wedi hynny mewn ysgol nos a gynhelid yn Ty'nclawdd, Tregarth. Yn 13 oed ymunodd â chymdeithas gerddorol y Carneddi, a thrwy hunan-ddiwylliant meistrolodd gynghanedd a chyfansoddiant. Perthynai i gapel yr Annibynwyr, Bethesda, ac arweiniai y côr yn yr eglwys honno. Sefydlodd ddosbarth cerddorol ac ysgrifennodd nifer o wersi cerddorol at ei wasanaeth. Dangoswyd y gwersi i John Ambrose Lloyd a ' Tanymarian,' ac ar eu hanogaeth hwy a chymdeithas cantorion y Carneddi yn 1848 cyhoeddwyd y gwersi yn llyfr dan yr enw Gramadeg Cerddorol; cafodd y llyfr gylchrediad helaeth ymhlith Cymry pob gwlad, a chytunir ei fod yn gyfraniad pwysig i gerddoriaeth y ganrif ddiwethaf. Cafwyd amryw argraffiadau ohono. Rhoddodd y côr, o dan arweiniad ' Alawydd,' berfformiadau o'r ' Meseia,' ' Samson,' ' Israel in Egypt,' a ' Judas Maccabeus,' o'r gantawd ' Tywysog Cymru,' ac ' Ystorm Tiberias.' Enillodd ar gyfansoddi anthemau yn eisteddfod Bethesda, 1852 a 1853, a cheir yn Cyfres Gerddorol ei anthem ' Bendigedig fyddo'r Arglwydd.' Yn 1867 dug allan Llyfr y Psalmau, yn cynnwys 150 o donau - 60 ohonynt wedi eu cyfansoddi a'u trefnu gan ' Alawydd ' ei hun. Cedwir enw ' Alawydd ' yn fyw trwy ei dôn ' Catherine,' 8.7.4. Bu farw 26 Mai 1872, a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.