ROBERTS, THOMAS FRANCIS (1860 - 1919), prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth

Enw: Thomas Francis Roberts
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1919
Priod: Mary Elizabeth Roberts (née Davies)
Rhiant: Anne Roberts
Rhiant: Thomas Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Aberdyfi 25 Medi 1860, mab hynaf Thomas Roberts, sersiant yn yr heddlu ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysg yn Nhywyn ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1879 enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf (1881) a'r ail (1883) yn y clasuron, a graddio yn 1883. Ar derfyn ei dymor yn Rhydychen penodwyd ef yn athro Groeg yng Ngholeg Prifathrofaol Deheudir Cymru a Mynwy, Caerdydd. Bu yno am wyth mlynedd, ond yn 1891 dychwelodd i'w hen goleg yn Aberystwyth yn brifathro ac yn olynydd i T. C. Edwards. Daliodd y swydd hyd ei farw yn Westcliff, 4 Awst 1919, a chladdwyd ym mynwent Aberystwyth. Cymerth ran amlwg yn natblygiad cynnar Prifysgol Cymru a chyfundrefn ysgolion canolradd; a bu'n annwyl gan genedlaethau o fyfyrwyr a chydweithwyr oherwydd ei ysgolheictod, ei ledneisrwydd, a'i foneddigeiddrwydd. Ychydig a ysgrifennodd, eithr ymhlith ei gynhyrchion ceir rhagymadrodd i ddau gyfieithiad Cymraeg o ddrama Euripides, Alcestis, 1887. Priododd, 1893, Mary Elizabeth, merch Robert Davies o Gaerdydd; bu hi a'u mab fyw ar ei ôl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.