Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERT , GRUFFYDD ( c. 1522 - c. 1610 ), offeiriad, gramadegydd, a bardd .

Ni wyddom pa le y g. ef, er bod ymchwil ddiweddar yn tueddu i brofi mai gŵr o sir Gaernarfon ydoedd. Ni wyddom, chwaith, pa le yr addysgwyd ef, oherwydd ni ellir bod yn sicr mai ef yw'r ‘ Griffin Roberts ’ a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Eglwys Crist yn Rhydychen rhwng 1550 a 1555 . Er hynny, fe'i gelwir yn ‘ Griffin Roberts , clerk , M.A. ’, yr hyn sy'n awgrymu iddo fod naill ai yn Rhydychen neu yng Nghaergrawnt . Yn 1558 , fe'i penodwyd yn archddiacon Môn , ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod y frenhines Elisabeth mewn materion ysbrydol, ac aeth ef a Morys Clynnog i'r Cyfandir . Arhosodd Morys Clynnog yn Brussels a Louvain , ac efallai mai dyna hanes Gruffydd Robert , yntau, er y gellid barnu wrth a ddywedir ar ddechrau'r gramadeg iddo deithio trwy lawer o wledydd y Cyfandir . Pa un bynnag, yr oeddynt ill dau yn gaplaniaid yn yr ysbyty Seisnig yn Rhufain yn 1564 . Yno enillodd sylw'r cardinal Carlo Borromeo , a phan wnaethpwyd y gŵr hwnnw'n archesgob Milan , aeth Gruffydd Robert gydag ef, ac fe'i penodwyd yn un o gyffeswyr yr archesgob a hefyd yn ganon diwinyddol yn yr eglwys gadeiriol . Cyfeirir ato yng nghofiant Borromeo , a cheir rhai manylion am y gorchwylion a gyflawnai yn y llythyrau hynny o waith ei gyfaill, Owen Lewis , sydd yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan . Tua mis Tachwedd 1582 , mynnai Borromeo iddo roddi heibio'i waith fel canon diwinyddol , a hynny oherwydd na allai siarad Eidaleg yn ddigon rhugl. Ni wyddom pa beth a ddigwyddodd iddo, ond arhosodd ym Milan , ac yno yr oedd yn 1596-7 pan yrrodd lythyr at Rosier Smyth . Ni wyddom chwaith pa bryd y bu farw, na pha le y claddwyd ef. Fe'i gelwid gan ei gyfoeswyr yn ‘ Doctor ,’ ond ni ddywedir pa le na pha bryd yr enillodd y ddoethuriaeth .

Y mae'n bosibl iddo gyhoeddi llyfryn bychan o farddoniaeth tua 1560-3 . Yna, yn 1567 , ymddangosodd rhan gyntaf ei ramadeg, Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg , a argraffwyd ym Milan . Ni chyhoeddwyd yr ail ran (sy'n trafod y rhannau ymadrodd) cyn tua 1584 , a gellir bwrw bod y drydedd (ar y cynganeddion) a'r bedwaredd (ar y mesurau) wedi ymddangos cyn 1594 . Gellir edrych ar ddau lyfryn bychan arall, sy'n cynnwys casgliad o farddoniaeth Cymraeg , a dechrau cyfieithiad o lyfr Cicero , De Senectute , fel atodiadau i'r gramadeg. Ef oedd y cyntaf i geisio dadansoddi'r iaith Gymraeg . Y peth pwysicaf a ddaw i'r golwg ydyw'r ymgais i wneuthur y Gymraeg yn ‘iaith dysg,’ yn offeryn cymwys i'r sawl a fynnai drafod yr holl bynciau a gâi sylw'r dyneiddwyr. Ac wrth ddangos fel y gellid cyfoethogi geirfa'r iaith, y mae'n ymdrin â'r elfen Ladin yn y Gymraeg . Nid oedd ganddo wybodaeth fanwl am gerdd dafod, ond eto, dengys yr adrannau ar y gynghanedd a'r mesurau fod ganddo ddoniau mawr fel beirniad llenyddol . Dyma un o lyfrau Gymraeg pwysicaf cyfnod y Dadeni . Ac y mae'n bwysig hefyd yn hanes rhyddiaith Gymraeg . Dangosodd Saunders Lewis mai Gruffydd Robert yw'r meistr Cymraeg cyntaf, a'r mwyaf hefyd, ar arddull arbennig y Dadeni Dysg , yr arddull Giceronaidd.

Ef a gyhoeddodd yr Athravaeth Gristnogavl dros Forys Clynnog ym Milan yn 1568 . Priodolwyd Y Drych Cristianogawl , 1585 , iddo, a cheir ei enw ar ddiwedd y rhagymadrodd, ond y mae cryn amheuaeth ynglŷn â hyn.

Ffynonellau:

  • D. Rhys Phillips , Dr. Griffith Roberts Canon of Milan a great Welsh grammarian (1917) ;
  • Gruffydd Robert , Gramadeg Cymraeg yn ôl yr argraffiad y dechreuwyd ei gyhoeddi ym Milan yn 1567 (Caerdydd, 1939) .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54