ROBERTS, ROBERT HENRY (1838-1900), gweinidog y Bedyddwyr a phrifathro Coleg Regent's Park, Llundain

Enw: Robert Henry Roberts
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1900
Plentyn: J.E. Roberts
Rhiant: John Nathan Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr a phrifathro Coleg Regent's Park, Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awduron: Benjamin George Owens, Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghaerfyrddin yn 1838, yn fab i John Nathan Roberts, gwerthwr offer haearn yn y dref a diacon yn y Tabernacl. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin o 1852 i 1857, ac yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bryste, o hynny hyd 1859, pryd y graddiodd yn B.A. o Brifysgol Llundain. Ordeiniwyd ef yn Bootle, 1861, symudodd i Cornwall Road, Notting Hill, Llundain, yn 1869, ac oddi yno yn 1891 i Goleg Regent's Park, yn brifathro ac athro diwinyddiaeth. Ymddiswyddodd yn 1896, a bu farw yn Folkestone, 16 Ebrill 1900. Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1892. Ysgrifennodd (1) Prayer and Contemporary Criticism. Five Sermons, 1873, a gyflwynwyd i aelodau Cornwall Road; (2) The Witness of the Bible, 1892 ei araith o gadair yr Undeb; a (3) The Spiritual Mind, 1902, dan olygiaeth ei fab, y Parch. J. E. Roberts, Manceinion.

Brawd iddo oedd FREDERICK THOMAS ROBERTS (bu farw 28 Gorffennaf 1918), meddyg, athro meddygiaeth yn University College, Llundain, ac awdur llawlyfr meddygol a aeth i ddeg arg.; cafodd D.Sc. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1910. (Who was Who.)

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.