Cywiriadau

ROBERTS, JOHN HENRY ('Pencerdd Gwynedd '; 1848 - 1924), cerddor

Enw: John Henry Roberts
Ffugenw: Pencerdd Gwynedd
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1924
Priod: Annie Roberts (née Williams)
Plentyn: Evelyn Roberts
Plentyn: Adelaide E. Roberts
Plentyn: John Henry Roberts
Plentyn: William Sterndale Bennett Roberts
Plentyn: George Frederick Roberts
Plentyn: Robert Arthur Tudur Roberts
Plentyn: Griffith Meyrick Roberts
Rhiant: Elizabeth Roberts
Rhiant: Harri Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 31 Mawrth 1848 ym Mhenrallt, Gefnan, Mynydd Llandegai, Sir Gaernarfon, mab Harri ac Elizabeth Roberts. Yn fachgen aeth i'r chwarel i weithio am ychydig ddyddiau, ond ni fynnai fod yn chwarelwr. Yr oedd ei dad yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, a datblygodd y dalent ynddo yntau yn gyflym. Yn 14 oed penodwyd ef i ganu'r offeryn yng nghapel Seilo (Wesleaidd), Tregarth, a dechreuodd gyfansoddi tonau ac anthemau. Yn 19 oed enillodd yr ail wobr yn eisteddfod Caerlleon am y gantawd, ' Y Mab Afradlon.' Yn 20 oed penodwyd ef yn glerc yn chwarel Bryneglwys, Abergynolwyn, a ffurfiodd gôr yn yr ardal ar gyfer gwyl gerddorol Harlech, 1868. Daeth i sylw fel cyfeilydd medrus, a phenderfynwyd gan bwyllgor o'r ardal a phwyllgor gwyl gerddorol Harlech ei gynorthwyo i gael addysg gerddorol. Aeth am gwrs o addysg at Dr. S. S. Wesley, organydd eglwys gadeiriol Caerloyw. Yn 1870 aeth i'r Academi Cerddorol Frenhinol, Llundain, ac arhosodd yno am bedair blynedd. Yn ystod ei arhosiad cyfansoddodd symffoni, dwy 'overture,' pedwarawd llinynnol, dwy sonata, anthemau, a chytganau. Dyma'r adeg y cyfansoddodd un o'i ranganau gorau, ' Cwsg, Filwr, Cwsg,' a gynhyrchodd y fath effaith pan ganwyd hi gan gôr Penbedw yn eisteddfod genedlaethol y Rhyl, 1892. Wedi gorffen ei gwrs yn yr academi penodwyd ef yn organydd capel Annibynwyr Bethesda; oddi yno aeth yn organydd capel Presbyteraidd Saesneg Castle Square, Caernarfon. Yn 1882 graddiodd yn Faglor Cerddoriaeth yng Nghaergrawnt, ac yn ddiweddarach enillodd y radd o F.T.S.C. o Goleg y Tonic Sol-ffa, Llundain. Yn 1898 penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd, Chatham Street, Lerpwl, a sefydlodd yn y ddinas y ' Cambrian School of Music ' i ddysgu pob cangen o'r gelfyddyd gerddorol. Cyfansoddodd gantawdau, anthemau, rhanganau, tonau, caneuon, a darnau i'r piano a'r gerddorfa, a bu ei ranganau yn ddarnau praw yn yr eisteddfod genedlaethol ar hyd y blynyddoedd. Yn 1890 cyhoeddodd Llawlyfr Elfennau Cerddoriaeth. Yn 1896 golygodd Llyfr Anthemau (Novello) yn cynnwys 50 o anthemau. Golygodd gasgliad o donau, Llawlyfr Moliant, yn 1880, i gymanfa Bedyddwyr Arfon, ac argraffiad newydd yn 1890. Golygodd a detholodd, 1893, donau i Hymnau yr Eglwys (' Elis Wyn o Wyrfai '); Hymnau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd, 1897; Llawlyfr Moliant yr Ysgol Sul (gyda W. T. Samuel), 1897; a Llyfr Tonau ac Emynau y Wesleaid Cymraeg (gydag Emlyn Evans a Wilfred Jones), 1904. Ysgrifennodd erthyglau ar gerddoriaeth i'r Cerddor. Yn 1922 cyflwynwyd tysteb iddo am ei wasanaeth i gerddoriaeth. Bu farw 6 Awst 1924, a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

ROBERTS, JOHN HENRY ('Pencerdd Gwynedd') (1848-1924), cyfansoddwr a cherddor

Ganwyd 31 Mawrth 1848 ym Mhenrallt, Y Gefnan, Mynydd Llandegái, Sir Gaernarfon, yn un o 8 o blant ac ail fab Harri ac Elizabeth Roberts. Yn 10 oed aeth i weithio yn chwarel y Penrhyn ond mewn byr amser dangosodd nad oedd hyn at ei ddant. Yr oedd ei dad yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a datblygodd y dalent ynddo yntau yn gyflym. Yr oedd eisoes yn dangos diddordeb brwd mwn cerddoriaeth a daeth yn ddisgybl i Evan Thomas, organydd eglwys St Ann (sydd yn awr dan domenni'r chwarel) ac yn ddiweddarach, gyda chymorth ei frawd-yng-nghyfraith, William Pritchard, codwr canu Seilo (Wesleaidd), Tre-garth, yn organydd y capel. Yr oedd eisoes wedi dechrau cyfansoddi emyn-donau ac anthemau a phan oedd yn 19 enillodd wobr yn eisteddfod Caer am gantata 'Y Mab Afradlon'. Penodwyd ef yn glerc yn chwarel Bryneglwys, Abergynolwyn, ac yn fuan wedyn ffurfiodd gôr yn yr ardal ar gyfer Gŵyl Gerddorol Harlech a enillodd y wobr gyntaf yng ngŵyl 1869. Yn gyfeilydd medrus yn ogystal ag yn gyfansoddwr ac arweinydd erbyn hyn, yr oedd wedi penderfynu astudio gyda Dr S. S. Wesley, organydd cadeirlan Caerloyw ond darbwyllwyd ef gan rai yn ardal Abergynolwyn a phwyllgor Gŵyl Harlech i ystyried yn hytrach yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Un arall a wnaeth ddwyn perswâd arno oedd y cyfansoddwr a'r pianydd Brinley Richards yr oedd wedi cyfarfod ag ef yng Ngŵyl Harlech. Er iddo dreulio wythnos gyda Dr Wesley yng Nghaerloyw a chael cynnig swydd yn un o eglwysi Caerloyw, penderfynodd fynd i'r Academi Frenhinol a sefydlwyd cronfa, ar anogaeth Dr Wesley i dalu'r ffioedd. Aeth i'r Academi Frenhinol yn nhymor y Pasg 1870 a graddiodd gyda thystysgrif dosbarth cyntaf yn Ionawr 1874 a dod yn 'Associate' o'r Academi. Yn ystod ei arhosiad yno cyfansoddodd symffoni, dau agorawd, pedwarawd llinynnol, dwy sonata, anthemau a chytganau. Cydnabuwyd ef gan y cerddor a'r beirniad D. Emlyn Evans fel y cyfansoddwr rhanganau gorau a gododd y genedl Gymreig erioed. Dyma'r adeg y cyfansoddodd un o'i ranganau gorau, 'Cwsg, Filwr, cwsg' a gynhyrchodd y fath effaith pan ganwyd hi gan gôr Penbedw yn eisteddfod genedlaethol y Rhyl, 1892. Yn gynnar yn 1874, yr un flwyddyn ag yr enillodd ei gantata 'Awdl yr orsedd' y wobr gyntaf yn eisteddfod genedlaethol Bangor, dychwelodd i Sir Gaernarfon gan letya ym Methesda lle y sefydlodd y North Wales Musical Training College. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno gwahoddwyd ef gan William Parry, arweinydd streic y chwarelwyr, i ddod yn organydd Bethesda, capel yr Annibynwyr. Symudodd i Gaernarfon yn nes ymlaen a lletya yn Sgwar Uxbridge, yn nghartref Annie Hughes, gwraig weddw a dwy o ferched ganddi, Annie a Frances Williams, o briodas gynharach. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn 1877, a'r flwyddyn honno cyfansoddodd 'Y mae'n gorffwysfa eto'n ôl', anthem goffa i John Roberts ('Ieuan Gwyllt') a werthodd 90,000 o gopïau. Penodwyd ef yn organydd eglwys Bresbyteraidd Saesneg Turf Square, Caernarfon, yn 1878. Cafodd radd Mus.Bac. Prifysgol b yn 1882 a dod yn F.T.S.C. (Cymrawd y Coleg Tonic Sol-ffa) yr un flwyddyn. Bu'n organydd eglwys Bresbyteraidd Saesneg newydd Castle Square, Caernarfon, o 1883 hyd 1897 pan benodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Chatham Street yn Lerpwl a sefydlu'r Cambrian School of Music a hefyd y J.H.Roberts Music Publishing Co. Treuliodd ei fywyd nid yn unig yn cyfansoddi ond hefyd yn beirniadu a chyfeilio mewn eisteddfodau ledled Cymru. Cyfansoddodd fwy na 400 o gantatâu, anthemau, emyn donau, rhanganau, unawdau a darnau i'r piano a'r gerddorfa yn ogystal â llyfrau emynau a llawlyfrau hyfforddiadol. Yn 1870 cyhoeddodd Cydganau y plant ar gyfer ysgolion Sul. Yr oedd yn olygydd cerdd (gyda W. T. Samuel) 'Llawlyfr Moliant, casgliad o emynau a thonau at wasaneth cynulleidfaoedd y Bedyddwyr, detholedig gan Bwyllgor Cymanfa Arfon' yn 1880, ac 'Argraffiad newydd wedi'i aildrefnu' yn 1890. Yn 1897 yr oedd ef a W. T. Samuel yn olygwyr cerdd Llawlyfr Moliant yr Ysgol Sabbothol. Cyhoeddodd Llawlyfr Elfennau Cerddoriaeth yn 1890, detholodd a golygodd donau ar gyfer Hymnau yr eglwys (gol. Elis Wyn o Wyrfai) yn 1893, a golygodd Llyfr Anthemau (Novello) yn cynnwys 50 o anthemau, yn 1896. Llyfrau emynau eraill y bu'n ymwneud â hwy oedd Llyfr Hymnau a Thonau y Methodistiaid (1897), Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Wesleaidd (gyda D. Emlyn Evans a Wilfred Jones) (1904). Adeg ei farw yr oedd yn ymchwilio ac yn golygu hen donau ac alawon ar gyfer ei History of Old Tunes. Mynychai'r eisteddfod yn rheolaidd - bu yn 'eisteddfod y gadair ddu' ym Mhenbedw yn 1917 - yn feirnaid ac yn gyfeilydd ac enillodd ei gyfansoddiadau lu o wobrau a chael eu harfer yn ddarnau prawf dros y blynyddoedd. Ysgrifennai'n gyson i'r Cerddor. Priododd Annie Williams yn 1878 a chawsant 7 o blant - John Henry, Adelaide, Griffith Meyrick, Robert Arthur Tudur, Evelyn, George Frederick a William Sterndale Bennett (a enwyd ar ôl prifathro'r Academi Frehinol ac athro piano a chyfansoddi John Roberts). Yn 1922 cyflwynwyd tysteb iddo am ei wasanaeth i gerddoriaeth. Bu farw 6 Awst 1924 a chladdwyd ef yn mynwent Smithfield Road, Lerpwl.

Awduron

  • Robert David Griffith, (1877 - 1958)
  • Bradley Roberts

    Ffynonellau

  • The Musical Herald; a Journal of Music and Musical Literature, 1894
  • Y Brython, 7 Awst 1924
  • Y Cerddor Cymreig ( 1861-1873 ), 1869, 1871
  • Y Cerddor, Ebrill 1909 a Thachwedd 1921
  • ymchwil bersonol

Dyddiad cyhoeddi: 2008

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.