ROBERTS, JOHN (1576 - 1610), mynach Benedictaidd a merthyr

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1576
Dyddiad marw: 1610
Rhiant: Robert ab Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mynach Benedictaidd a merthyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn Nhrawsfynydd yn 1576. Ar sail Peniarth MS 287 tybir bellach mai Robert, un o feibion Ellis ap William ap Gruffydd, Rhiwgoch, ydoedd ei dad, a'i fod felly yn gefnder i Robert Lloyd, Rhiwgoch aelod seneddol tros sir Feirionnydd, 1586-7. Magwyd ac addysgwyd ef fel Protestant, ac ymaelododd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen 26 Chwefror 1595/6. Yno daeth i gyffyrddiad agos â John (Leander) Jones. Gadawodd Rydychen yn 1598, ac wedi ychydig fisoedd yn Furnival's Inn yn astudio'r gyfraith aeth i deithio'r Cyfandir. Tra ym Mharis troes yn Gatholig, a derbyniwyd ef i Goleg Jesiwitaidd S. Alban, Valladolid, 18 Hydref 1598. Wedi blwyddyn yno, penderfynodd ymuno ag Urdd S. Benet; mabwysiadodd yr enw Fra Juan de Mervinia, ac aeth am gwrs pellach o astudiaeth yn Salamanca. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1602, ac ym mis Ebrill 1603 daeth i Loegr fel cenhadwr. Bu bedair gwaith yng ngafael yr awdurdodau, unwaith, ym mis Tachwedd, 1605, yn ystod helynt Brad y Powdr Gwn, ond ar bob achlysur, wedi tymor byr o garchar, dedfrydwyd ef i alltudiaeth. Daliwyd Roberts yn Llundain am y pumed tro yn 1610, cafwyd ef yn euog o uchel frad, a dienyddiwyd ef 10 Rhagfyr. Yr oedd yn un o brif sefydlwyr Coleg S. Gregory, Douai, 1606-7, i hyfforddi offeiriaid ar gyfer y genhadaeth Saesneg, a gwnaed ef yn brior cyntaf y coleg. Efe ydoedd arloeswr diwygiad Urdd S. Benet ym Mhrydain, a'i gyn-ferthyr hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.