ROBERTS, JOHN ('Siôn Lleyn'; 1749 - 1817), bardd, athro, ac arloesydd crefyddol

Enw: John Roberts
Ffugenw: Siôn Lleyn
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1817
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, athro, ac arloesydd crefyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Chwilog Bach, Llanystumdwy. Amlygodd dalent yn gynnar yn ei oes a chyhoeddodd gerdd ar 'Farn Duw' cyn iddo symud o Eifionydd i Lŷn. Ymddengys ei fod yn ddisgybl gohebol i David Thomas ('Dafydd Ddu Eryri') ac yn Cyhoeddiadau Cymdeithas y Gwyneddigion, 1801, ceir 'Awdyl' o'i waith. Tua 1802 cyhoeddodd Marwnad … Robert Roberts, Clynnog, ac, yn 1815, Caniadau Newyddion.

Symudodd i Bwllheli, a bu'n athro ysgol yno; efe oedd prif sefydlydd capel (Methodistiaid Calfinaidd) Pen-y-mownt yn y dref honno ac ysgol Sul a ddaeth yn llewyrchus cyn cychwyniad ysgolion Sul Robert Raikes a Thomas Charles. Ceir peth o'i waith yn Corph y Gaingc David Thomas ('Dafydd Ddu Eryri'); gweler hefyd Adgof Uwch Anghof (John Jones, 'Myrddin Fardd') a'r 'Myrddin Fardd' MSS. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgrifennodd rai emynau hefyd.

Bu farw 7 Mai 1817 a chladdwyd ef yn Dyneio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.