ROBERTS, JOHN (1753 - 1834), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1834
Priod: Roberts
Plentyn: Michael Roberts
Rhiant: Catherine Thomas (née Jones)
Rhiant: Robert Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Ganwyd ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle (yr oedd yn frawd i'r pregethwr hynod, Robert Roberts, Clynnog). Gweithiodd am gyfnod yn chwarel y Cilgwyn. Wedi iddo gael peth addysg bu'n cadw ysgol mewn gwahanol leoedd ac adwaenid ef am flynyddoedd fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu pan oedd yn 27 oed. Wedi ei briodas â Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, aeth i'r ardal honno i fyw. Ordeiniwyd ef yn gyflawn weinidog yn adeg yr ordeiniad cyntaf, 1811. Bwriodd ei ddyddiau o 1809 hyd ei farwolaeth, 3 Tachwedd 1834 (yn 82 oed), yn Llangwm. Dyn byr o gorff oedd, ond o gyfansoddiad cryf. Bu iddo ran yng nghyfansoddiad y Gyffes Ffydd a'r rheolau disgyblaeth yn 1823, a chyfrifid ef yn drefnydd ac ysgrifennydd medrus iawn. Er nad oedd yn danllyd huawdl fel ei frawd, Robert Roberts, yr oedd yn rymus a rhwydd ei ymadrodd, a phrin y ceid neb un a bregethodd mor gyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne aGogledd Cymru am gynifer o flynyddoedd. [Ganwyd 8 Awst 1753; mab iddo oedd Michael Roberts.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.