Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , JOHN (‘ Ieuan Gwyllt ’; 1822 - 1877 ), cerddor ; g. 27 Rhagfyr 1822 yn Tanrhiwfelen ger Aberystwyth , mab Evan ac Elizabeth Roberts . Yn 1823 symudodd y teulu i fyw i Ty’nyffordd , Penllwyn , Aberystwyth , ac yn 1829 i Pistyllgwyn yn nyffryn Melindwr . Yr oedd ei dad yn ddechreuwr canu a'i fam yn gantores lled dda. Cafodd addysg am rai blynyddoedd yn ysgol Lewis Edwards [q.v.] , Penllwyn . Yn ieuanc cyfansoddodd farddoniaeth , a rhoddodd yn ffugenw wrthi ‘ Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindwr ,’ ac wedi hyn galwyd ef yn ‘ Ieuan Gwyllt ’ tra bu byw. Yn 1842 cafodd le yn glerc gyda Griffith a Roberts , fferyllwyr , Aberystwyth , a bu yn eu gwasanaeth am ddwy flynedd. Yn 1844 penodwyd ef yn athro ysgol Skinner Street , ond ymhen ychydig fisoedd aeth i Goleg Normal Borough Road , Llundain , am naw mis. Dychwelodd yn ôl yn 1845 ac agorodd Ysgol Frutanaidd yn Aberystwyth . Ymhen naw mis rhoddodd yr ysgol i fyny ac aeth yn glerc at Hughes a Roberts , cyfreithwyr , a bu yno am saith mlynedd. Yn 1852 penodwyd ef yn is-olygydd Yr Amserau i gynorthwyo Hiraethog ,’ a pharhaodd ei gysylltiad â'r papur hyd 1858 . Yn 1856 dechreuodd bregethu , gan draddodi ei bregeth gyntaf ar 15 Mehefin yn Runcorn . Yn 1858 symudodd i Aberdâr i olygu Y Gwladgarwr . Yn 1859 priododd Jane Richards , Aberystwyth . Dechreuodd gyfansoddi yn ieuanc, a cheir tôn yn Yr Athraw , Tachwedd 1839 o'r enw ‘ Hafilah ,’ 8.7.3. Yn 1852 dug allan Blodau Cerdd , yn cynnwys gwersi cerddorol a thonau. Wedi mynd i Lerpwl yn 1852 daeth i adnabod y wir arddull mewn cerddoriaeth eglwysig, a dechreuodd ar waith mawr ei fywyd o gasglu a dethol y tonau gorau at wasanaeth ei genedl . Ar ôl llafurio am chwe blynedd dug allan ( Ebrill 1859 ) Llyfr Tonau Cynulleidfaol , a chyda'r llyfr hwn cychwynnwyd cyfnod newydd yng nghaniadaeth grefyddol Cymru . Cyhoeddodd Atodiad ac, yn 1870 , Ychwanegiad , i'r Llyfr Tonau . Trefnodd a chynganeddodd nifer mawr o'r tonau , a chyfansoddodd ddau ddwsin o donau a salm-donau sydd mewn ymarferiad gan yr holl enwadau crefyddol; ystyrir ei dôn ‘ Moab ’ yn un o donau gorau'r byd. Teithiodd i bob rhan o Gymru i ddarlithio ar ganiadaeth grefyddol . Yn 1859 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Telyn y Plant dan olygiaeth Thomas Levi [q.v.] a ‘ Ieuan Gwyllt ’; yn 1861 newidiwyd ei enw i Trysorfa y Plant a golygai ‘ Ieuan Gwyllt ’ y tonau. Yn 1859 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Pant-tywyll , Merthyr , ac ordeiniwyd ef yn weinidog yng nghymdeithasfa Castellnewydd , 7 Awst 1861 . Ym mis Mawrth 1861 dug allan y rhifyn cyntaf o Y Cerddor Cymraeg , ac am bedair blynedd golygodd a chyhoeddodd ef ar ei gyfrifoldeb ei hunan. Yn 1865 ymgymerodd Hughes a'i Fab , Wrecsam , â'i gyhoeddi, ond parhaodd ‘ Ieuan Gwyllt ’ i'w olygu hyd 1873 . Yn ychwanegol at yr ysgrifau ar gerddoriaeth, rhoddid darn o gerddoriaeth glasurol gyda geiriau Cymraeg o drefniant ‘ Ieuan Gwyllt .’ Ef a sefydlodd ŵyl gerddorol Gwent a Morgannwg , 1854 ; gŵyl Eryri , 1866 ; a gŵyl Ardudwy , 1868 . Dechreuodd astudio nodiant y Tonic Sol-ffa yn 1863 , a dug allan ei Lyfr Tonau yn y nodiant hwnnw yn 1864 . Cychwynnodd Cerddor y Tonic Solffa yn 1869 , a golygodd y cylchgrawn hyd 1874 . Derbyniodd alwad i fugeilio Capel Coch ( Methodistiaid Calfinaidd ), Llanberis , yn 1865 , a gwasnaethodd yno hyd ei ymneilltuad i'r Fron , Llanfaglan , ger Caernarfon , yn 1869 . Ef oedd ysgrifennydd pwyllgor Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd , 1869 . Bu'n olygydd Y Goleuad o Orffennaf 1871 hyd Hydref 1872 , ac yn 1874 dug allan Sŵn y Jiwbili , sef trefniant o emynau a thonau Sankey a Moody yn Gymraeg . Yr oedd yn enwog fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu . Bu f. 14 Mai 1877 a chladdwyd ef ym mynwent Caeathro ger Caernarfon .

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Jones , Ieuan Gwyllt : ei fywyd, ei lafur, ei athrylith, ei nodweddion, a'i ddylanwad ar Gymru , Treffynnon, 1881 ;
  • J. Owen ac ‘Alaw Ddu,’ Traethawd ar fywyd ac athrylith y Parchedig John Roberts (Ieuan Gwyllt) , Pwllheli, 1879 ;
  • Y Cerddor. Cylchgrawn misolY Cerddor Newydd. The Welsh musical magazine. . [O 1922 ymlaen fe'i adnabyddir fel ] , Hydref 1892 , a Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, a Mai 1909 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn.