Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , WILLIAM JOHN (‘ Gwilym Cowlyd ’; 1827 - 1904 ), bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, llyfrbryf, a gŵr hynod; ;

g. yn Trefriw , sir Gaernarfon , yn fab i John Roberts , Tyddyn Gwilym . Yr oedd yn nai i Ieuan Glan Geirionydd .’ Sefydlodd Orsedd Geirionydd ( 1865 ) mewn gwrthwynebiad i Orsedd Beirdd Ynys Prydain , a honnai ef oedd yn sefydliad gau. O dan ei lywodraeth ef, fel ‘ Prif Fardd Pendant ,’ cynhelid arwest Glan Geirionydd , gwrth-eisteddfod, gyda'i gorsedd ei hun, bob blwyddyn yn yr awyr agored ar lan llyn Geirionydd , ger cartref tybiedig Taliesin Ben Beirdd . Cyfansoddodd ‘ Mynyddoedd Eryri ’ (awdl) a ‘ Murmuron ’ (barddoniaeth). Hefyd cyhoeddodd Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd , Gweithiau Gethin , a Diliau'r Delyn (hen benillion) Bu f. ddechrau Rhagfyr 1904 a'i gladdu 8 Rhagfyr ym mynwent eglwys S. Mair , Llanrwst , sir Ddinbych .

Ffynonellau:

  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present , 1908 ;
  • E. D. Rowlands , Dyffryn Conwy a'r Creuddyn , Lerpwl, 1948 , 125-8;
  • Owen Williams , Awduron Sir Ddinbych a'u gweithiau , 1937 , 1937 ;
  • Baner ac Amserau Cymru , 7 a 14 Rhagfyr 1904 ;
  • Y Geninen , (Gŵyl Dewi), 1907 ;
  • Y Geninen , Ebrill 1906 .

Awdur:

Henry Parry Jones, M.A., Llanrwst

Atodiadau a chywiriadau:

ROBERTS , WILLIAM JOHN ( Bywg. , 831)

g. yn 1828 ; yn 1863 y sefydlodd ei ‘ Orsedd ’.

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54