ROBERTS, OWEN OWEN (1793 - 1866) meddyg a diwygiwr cymdeithasol

Enw: Owen Owen Roberts
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1866
Rhiant: Mary Roberts
Rhiant: William Lloyd Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a diwygiwr cymdeithasol
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Emyr Hywel Owen

Ganwyd 17 Ionawr 1793, mab William Lloyd a Mary Roberts o Gefnycoed, plwyf Eglwysbach. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Llanrwst ac yng ngholegau meddygol Edinburgh a Dulyn. Gweithiodd fel meddyg yn Ysbyty Brenhinol Caerlleon, ac yn ardaloedd Llanrwst, Caernarfon, a Bangor. Cymerodd ddiddordeb arbennig yn iechyd y cyhoedd, a gwnaeth astudiaeth arbennig o'r colera pan ysgubodd hwnnw dros Gymru yn 1830. Sefydlodd fwrdd iechyd yn nhref Caernarfon yn yr un flwyddyn, a phan ddaeth y clefyd eilwaith yn 1848, cyhoeddodd bamffled arno, A Few, Plain, Practical Hints on Cholera, its Causes, Prevention, and Treatment. Ef oedd cychwynnydd y mudiad i gael yr ysbyty cyntaf i Fôn ac Arfon ym Mangor yn 1844, ac ef hefyd a feddyliodd gyntaf am gartref i bobl wan eu meddwl yn Ninbych. Yr oedd gan O. O. Roberts ddiddordeb byw mewn addysg, ac yn enwedig felly yng ngwaddoliadau addysgol esgobaethau Bangor a Llanelwy. Camgymhwyswyd y rhain bron yn gyfan gwbl, a thynnodd yntau sylw'r Senedd yn arbennig at gyflwr ysgol ramadeg Llanrwst, ac ysgol y Friars, Bangor; a phan ddaeth y dirprwywyr addysg i Gymru yn 1846, ysgrifennodd lythyr maith atynt i ofyn iddynt geisio unioni pethau. Yr oedd O. O. Roberts hefyd yn un o Radicaliaid amlycaf hanner cyntaf y 19eg ganrif. Cyn 1832 ceisiodd gan aelodau seneddol fynegi deisyfiadau eu hetholwyr, yn hytrach na'u credoau personol eu hunain, ac wedi 1832 rhoes pob gewyn ar waith i ofalu fod pob un a oedd â hawl i bleidlais yn cael ei gofrestru. Yr oedd yn amlwg ym mhob lecsiwn seneddol yn Arfon yn cefnogi'r ymgeisydd Radicalaidd, ac ef a gefnogodd Richard Davies o Borthaethwy yn lecsiwn 1852 ym Mwrdeisdrefi Arfon fel ' a man from the ranks of the long-maligned common people of Wales.' Cyn bo hir sylweddolodd fod 'sgriw' ar etholwyr yn bod, a bod angen y balot, os oedd honno i gael ei choncro. Yr oedd hefyd yn un o wŷr amlycaf dadl fawr y ganrif rhwng llan a chapel, a chyhoeddodd chwe phamffled yn ymdrin â hon; chwipiodd gyflwr yr Eglwys Sefydledig yn ddidrugaredd yn y rhain, ac yn 1837 llwyddodd hefyd i berswadio trigolion plwyf Llanbeblig i beidio â thalu'r dreth Eglwys. Yr oedd ganddo ddiddordebau eraill hefyd - amaethu tir a datblygu trefi, gwneud iawn ddefnydd o dir y Goron a gwella porthladdoedd; ac yr oedd yn ogystal yn feddyg poblogaidd. Bu farw 31 Ionawr 1866, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.