ROBERTS, JOHN PRICE (1854 - 1905), gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor

Enw: John Price Roberts
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1905
Rhiant: Catherine Roberts
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 7 Chwefror 1854 ym Mhenmachno, yn fab i William a Catherine Roberts. Dechreuodd fel pregethwr lleyg yn 1872, ac wedi bwrw tymor mewn siop ym Manceinion, cydnabuwyd ef (1876) yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Bu yng Ngholeg Richmond; dechreuodd deithio yng Nghaernarfon; ac ordeiniwyd ef yn Lerpwl yn 1881. Ar ôl hynny, gwasnaethodd mewn 12 cylchdaith; bu farw yn Nhregarth 8 Tachwedd 1905. Sgrifennai'n fynych i'r Eurgrawn; prydyddai hefyd, gan ennill amryw gadeiriau - canmolir ei bryddest goffa ar Joseph Thomas, Carno. Cyhoeddodd gofiant Cymraeg, 1903, i Hugh Price Hughes, ac yr oedd yn un o awduron cofiant John Evans, Eglwysbach, 1903.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.