ROBERTS, ROBERT (1680 - 1741), clerigwr

Enw: Robert Roberts
Dyddiad geni: 1680
Dyddiad marw: 1741
Rhiant: Henry Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1680 yn fab i Henry Roberts, ' gent., of Llandyssen, Denbighshire ' - Llandysilio, mae'n debyg. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, fis Mawrth 1698/9, 'yn 18 oed,' a graddiodd yn 1702. Penodwyd ef yn ficer y Waun ('Chirk') yn 1709, a bu farw yno yn 1741, yn 61 oed meddai carreg ei fedd. Cyhoeddodd yn 1720 lyfryn dwy-ieithog 'gan fod trigolion plwy'r Waun rai ohonynt yn Gymraeg a rhai yn Saesneg,' meddai ei ragymadrodd. Y teitl Cymraeg yw Sacrament Gatechism, neu Gatechism i barattoi rhai i dderbyn Sacrament Swpper yr Arglwydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.